Mae YesCymru yn galw ar bobol i “fynd allan ar y strydoedd” ac am sicrhau bod Cymru gyfan yn “deffro i’r ffaith mai annibyniaeth yw’r unig ffordd ymlaen”.

Daw hyn ar ôl i fwy na 10,000 o bobol ymgasglu ar strydoedd Caerdydd ar gyfer y rali genedlaethol ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 1).

Hon oedd y bumed orymdaith dros annibyniaeth i’w chynnal yng Nghymru, a chafodd ei chynnal ar yr un diwrnod â gorymdeithiau Pawb Dan Un Faner (AUOB) dros annibyniaeth yn yr Alban a Chernyw.

Ymhlith y siaradwyr yng Nghaerdydd roedd y gwleidydd Dafydd Wigley, yr actor Julian Lewis Jones, y digrifwr Gwyddelig Tadhg Hickey, y gantores Eadyth, Gwern Evans (Prif Weithredwr newydd YesCymru), Harriet Protheroe-Soltani o Labour4IndyWales ac AUOBCymru, ac Agit Chevis o Gaerdydd.

Roedd yr orymdaith yn benllanw misoedd o baratoi a hyrwyddo gan grwp YesCymru Caerdydd a grwpiau eraill a chafodd nifer o weithgareddau eu trefnu yn ffocysu ar annibyniaeth.

Cafodd y cyfan ei lywio ar y llwyfan gan Ffion Dafis, ac roedd perfformiad annisgwyl o ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan.

“Ein dyletwsydd ni yn awr yw diffinio annibyniaeth, i ddangos sut gall annibyniaeth achub Cymru rhag cynllwyniau gwallgo llywodraeth San Steffan,” meddai’r Arglwydd Dafydd Wigley.

“Gall annibyniaeth weithio i bawb yng Nghymru.

“Mae annibyniaeth yn angenrheidiol ac rydym yn ei fynnu nawr!”

Teyrnged i Eddie Butler

Roedd munud o dawelwch dwys er cof am y sylwebydd rygbi, darlledwr a chenedlaetholwr Eddie Butler ar y diwrnod.

Cafodd ei araith ysbrydoledig yng Ngorymdaith Merthyr 2019 ei darlledu yn ystod y digwyddiad, ac roedd ei wraig a’i blant yn gorymdeithio.

“Mae YesCymru yma i arwain ein sgwrs genedlaethol,” meddai Gwern Gwynfil.

“Mae chwalu’r Undeb yn anochel.

“Bydd Iwerddon unedig, bydd yr Alban yn annibynnol a’r unig ddyfodol hyfyw i Gymru yw fel cenedl annibynnol.

“Rydym yn economaidd hyfyw ac mae San Steffan wedi ein methu ers degawdau.

“Ni fydd hyn yn newid felly mae’n rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb llawn am ein dyfodol ein hunain a sefyll yn falch fel cenedl ar y llwyfan byd-eang.”

Galwad o’r newydd

“Erbyn hyn, mae’r baneri wedi eu chwifio, mae Yma o Hyd wedi ei chanu, beth am fynd allan ar y strydoedd, beth am i ni gael Cymru gyfan i ddeffro i’r ffaith mai #annibyniaeth yw’r unig ffordd ymlaen,” meddai YesCymru ar y cyfryngau cymdeithasol wedi’r digwyddiad.

“Ymunwch â’ch grŵp lleol.

“Ymunwch â @YesCymru.”

 

“Mae pobl yn deall bod gennym ni yng Nghymru ddewis arall i’r hyn sy’n digwydd yn San Steffan,” meddai Llywelyn ap Gwilym o AUOBCymru.

“Ni fydd annibyniaeth yn datrys pethau’n awtomatig, ond dyma’r llwybr mwyaf tebygol at gymdeithas decach a mwy gofalgar i bawb yng Nghymru.”