Mae’r awdures Angharad Tomos ymhlith y bobol sy’n poeni am y tai haf yn ardal yn Llanllyfni, a bod y sefyllfa wedi gwaethygu’n sylweddol dros y blynyddoedd.

Oherwydd Covid, mae mwy o bobol yn gweithio o gartref erbyn hyn, gyda bywyd gwledig da yn apelio atyn nhw a’r ffaith fod tai yn rhatach yn Llanllyfni a chyflogau’n is nag mewn dinasoedd yn Lloegr.

Yn ei dro, mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i bobol leol brynu tai.

Mae’r sefyllfa yma yn bodoli mewn rhai ardaloedd yn Lloegr, ond mae iaith a diwylliant hefyd i’w hamddiffyn yn yr ardal yma.

Mae Angharad Tomos yn dod o Lanllyfni yn wreiddiol, ac mae hi wedi bod yn protestio ers y saithdegau dros hawliau’r Gymraeg ac wedi bod i’r carchar.

“Ti’n clywed y gwahaniaeth pan ti’n cerdded o gwmpas,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny’n gryfach tystiolaeth na dim byd bod y sefyllfa dai yn wael.”

Mae hi’n dweud mai’r peth cyntaf wnaeth hi wrth ymgyrchu oedd meddiannu tŷ haf.

Ymgyrch oedd hyn gan Gymdeithas yr Iaith i dynnu sylw at y sefyllfa dai haf.

Mae hi’n protestio ers deugain mlynedd, ac yn ofni bod y sefyllfa mor wael ac erioed os nad yn waeth.

“Yr egwyddor sylfaenol yw, pa bynnag genedl, mae cael tŷ i fyw yn fater o gyfiawnder sylfaenol,” meddai.

“Heb gael rhywle i fyw, does dim pwynt siarad am addysg a gwaith.”

Ystadegau Cyngor Gwynedd

Yn ôl ystadegau Cyngor Gwynedd, mae 25 o unedau gwyliau hunangynhaliol yn Llanllyfni, a 56 o ail gartrefi.

Mae 36 o eiddo gwag hefyd.

Mae tua 4,425 o bobol yn byw yn Llanllyfni, ac mae canran y cartrefi nad ydyn nhw’n brif gartrefi pobol yn uchel.

Yn ôl astudiaethau iaith i Gymdeithas yr Iaith gan gymdeithasegwyr, unwaith mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi mynd o dan 75% mae dirywiad yn yr iaith fel iaith gymunedol. 

Mae Cyngor Gwynedd yn trafod cynyddu’r premiwm ail gartrefi i 300%.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, hefyd wedi mynegi pryder am y sefyllfa.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn credu nad yw’r hyn mae’r Cyngor na Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ddigon, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn feirniadol o’r Llywodraeth.

Yn ôl Angharad Tomos, mae prisiau’n codi oherwydd ei bod hi’n farchnad gyfalafol, ac mae Cymdeithas yr Iaith o’r farn y gellid rheoli’r farchnad dai drwy gael Deddf Eiddo, gan mai “hanfod Deddf Eiddo yw trin tai fel asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi, nid fel asedau ariannol i wneud elw”.