Mae aelodau o Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cyhoeddi eu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer 2022-23.
Fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo cyhoeddi’r cynllun mewn cyfarfod ddydd Mercher, Medi 28, sy’n golygu y gall symud tuag at gael ei weithredu ledled y bwrdeistref sirol.
Pwrpas Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) yw gwella cynllunio a safon addysg Gymraeg Castell-nedd Port Talbot drwy helpu pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg dros y deng mlynedd diwethaf.
Ei nodau yw cael mwy o blant meithrin a derbyn yn derbyn addysg Gymraeg, yn ogystal â mwy o blant yn parhau i wella’u sgiliau iaith Gymraeg wrth symud o un cam yn eu haddysg i’r llall.
Bydd hefyd yn anelu i gael mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi’u hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â chynnydd mewn staff addysgu sy’n gallu dysgu Cymraeg fel pwnc a phynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafodd cynllun Castell-nedd Port Talbot ei ddatblygu gan gydweithio â nifer o bartneriaid sy’n cynnwys ysgolion ledled y bwrdeistref sirol, megis Coleg Castell-nedd Port Talbot, ac Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae hefyd wedi cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n dilyn eu targed o geisio miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi, ehangu a hyrwyddo addysg Gymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot i ddatblygu dysgwyr sy’n llwyr ddwyieithog,” meddai’r Cynghorydd Nia Jenkins, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
“Bydd ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn chwarae rhan fawr wrth helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o weld nifer y bobol sy’n gallu siarad a defnyddio’r Gymraeg yng Nghymru’n cyrraedd miliwn erbyn 2050.”