Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau fore heddiw (dydd Llun, Hydref 3) na fyddan nhw’n bwrw ymlaen gyda’r cynllun i ddileu’r gyfradd 45c ar dreth incwm – rhywbeth sydd “ond yn deg”, yn ôl economegydd blaenllaw.
Mewn neges ar Twitter, dywed y Canghellor Kwasi Kwarteng fod y mesur yn tynnu sylw oddi wrth ei amcan i dyfu’r economi.
“Rydym yn deall, rydym wedi gwrando,” meddai.
Cafodd y cynllun i ddileu’r gyfradd o 45c – sy’n cael ei thalu gan bobol sy’n ennill dros £150,000 y flwyddyn – ei feirniadu fel un annheg yng nghanol yr argyfwng costau byw.
‘Trueni a chywilydd’
Mewn cyfweliadau darlledu oriau cyn bod disgwyl iddo fe annerch cynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham, gwadodd Kwasi Kwarteng fod ei gyllideb fach 10 diwrnod yn ôl wedi bod yn gamgymeriad.
“Dw i ddim yn cydnabod hynny o gwbl,” meddai.
“Roedden ni’n gweithredu ar gyflymder uchel iawn, iawn.”
Mynnodd Kwasi Kwarteng fod llawer o gythrwfl yn y farchnad wedi’i achosi gan ffactorau rhyngwladol, cyn derbyn rhywfaint o fai.
“Mae yna gywilydd a thrueni, ac rwy’n hapus i’w dderbyn,” meddai.
Daeth y tro pedol wrth i Downing Street gydnabod fod cynifer o aelodau seneddol Ceidwadol yn gwrthwynebu’r polisi fel na fyddai’n debygol o gael ei basio.
‘Ond yn deg’
Mae hi ond yn iawn fod y rheiny sy’n ennill mwy o arian yn talu mwy o dreth, yn ôl yr economegydd Dr John Ball.
“Yn amlwg, roedd y syniad o gael gwared arno i ddechrau yn anghyfrifol,” meddai wrth golwg360.
“Y ffynhonnell bwysicaf o drethiant yn y Deyrnas Unedig ac unrhyw le yw treth incwm.
“Y dreth incwm yw’r math mwyaf cefnogol o dreth.
“Dydy hi ddim ond yn deg, ac ar ben hynny, mae’n dreth deg.
“Ni ddylid chwarae ag e, oherwydd mae hefyd yn dreth ecwitïol.
“Dydy’r rhai sy’n ennill ychydig iawn ddim yn talu treth, ac mae’r rhai sy’n ennill llawer yn talu mwy o dreth.”