Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod nhw’n cefnogi bwriad Cyngor Sir Caerfyrddin i ddiwygio’r broses o ymgynghori ynghylch ad-drefnu ysgolion y sir.

Mae’r broses ddadleuol wedi gweld ysgolion pentref yn cau, a chategori ieithyddol ysgolion eraill yn y sir yn cael eu newid.

Bydd adroddiad ar y broses yn cael ei drafod mewn cyfarfod o’r Cabinet heddiw (dydd Llun, Hydref 3).

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwahodd cynghorwyr a chynrychiolwyr addysg i’w Fforwm Agored blynyddol, ‘Tynged yr Iaith yn Sir Gâr – Addysg yw’r Allwedd’ yn Llyfrgell Caerfyrddin ddydd Sadwrn, Hydref 15.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “croesawu’n fawr” y ffaith fod y Cynghorydd Darren Price, arweinydd y Cyngor, am ateb cwestiynau’r cyhoedd a chyfrannu at y drafodaeth.

Bydd y Fforwm yn cael ei agor yn swyddogol gan Calum Higgins, Cynghorydd Llafur Tref Rhydaman.

‘Ymgais fwy difrifol i geisio consensws’

“Mae pobol yn Sir Gâr yn gyffredinol wedi teimlo dros y blynyddoedd mai ffug oedd ymgynghoriadau am ddyfodol ysgolion a oeddent mor bwysig i’w cymunedau, ac nad oedd dim yn newid o ganlyniad i leisio barn,” meddai Ffred Ffransis.

“Croesawn felly fwriad y Cyngor newydd, a drafodir gan y Cabinet heddiw, i sefydlu trefn lle bydd ymgais fwy difrifol i geisio consensws mewn cymunedau lleol cyn cyhoeddi cynlluniau.

“Cefnogwn yn arbennig y gosodiad mai proses, nid digwyddiad, yw symud ysgolion ar hyd y continwwm tuag at addysg Gymraeg, a’r gosodiad y dylai ymgynghoriad i symud ysgolion ar hyd o continwwm ddod o dan Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, yn hytrach nag ymgynghoriad llawn bob ar cam, sy’n oedi’r broses o sicrhau fod pob disgybl yn dod yn rhugl yn y ddwy iaith.

“Rhybuddiwn fodd bynnag na ddylai nod o symleiddio proses ymgynghori am ddyfodol ysgolion fyth dod yn air mwys am gau ysgolion er mwyn hwylustod gweinyddol.”