Bydd hi’n anoddach i brynwyr, yn enwedig prynwyr tro cyntaf, brynu tai wrth i’r ansefydlogrwydd economaidd effeithio ar y farchnad dai, yn ôl cyfreithiwr sy’n arbenigo ar werthiannau tai.

Dydy Wyn Williams, sy’n bennaeth yr adran Trawsgludo Preswyl (Residential Conveyancing) gyda chyfreithwyr Harding Evans, ddim yn meddwl y bydd “Armagedon” na chwymp sylweddol yn y farchnad dai, ond mae’n debyg y bydd prisiau tai yn gostwng rywfaint, meddai.

Roedd disgwyl i gyfraddau llog y Deyrnas Unedig gyrraedd 6% y flwyddyn nesaf ar ôl i Kwasi Kwarteg, Canghellor San Steffan, gyhoeddi ei gyllideb fechan.

Ond ers y cadarnhad fore heddiw (dydd Llun, Hydref 3), na fyddan nhw’n bwrw ymlaen â chynllun i ddileu’r gyfradd 45c ar dreth incwm -sy’n cael ei thalu gan bobol sy’n ennill dros £150,000 y flwyddyn – mae’r rhagolygon wedi newid a’r disgwyl yw y bydd cyfraddau llog yn cyrraedd rhwng 5.5% a 5.75%.

Fodd bynnag, wrth i’r cyfraddau llog barhau i godi, mae hynny’n cael effaith ar gynigion morgeisi, meddai Wyn Williams, un o berchnogion y cwmni sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Yn sgil hynny, a phrinder stoc tai, mae’n rhagweld y bydd hi’n mynd yn anoddach i brynwyr fforddio prynu.

“Os wyt ti’n mynd i brynu tŷ, mae faint ti’n mynd i fenthyg faint ti’n mynd i dalu yn ôl bob mis yn mynd i gael ei effeithio gyda [chyfraddau llog] yn mynd lan,” meddai wrth golwg360.

“Roedd e bach yn boncyrs wythnos diwethaf.

Penderfynodd y llywodraeth yng Nghymru newid y land transaction rate felly roedd popeth yn digwydd yr un pryd.”

‘Pob un i weld yn panicio’

Os oes gan ddarpar brynwyr gynnig morgais yn barod, ni ddylai problemau godi a bydd y cwmni morgais yn cadw at y cytundeb hwnnw, yn ôl Wyn Williams.

Mae’n dweud bod y drafferth yn codi ar gyfer pobol sydd heb gael cynnig morgais eto.

“Y broblem iddyn nhw yw, achos bod yr interest rates yma’n mynd lan drwy’r amser fydd beth mae’r cwmni morgais yn gallu ei gynnig iddyn nhw’n newid trwy’r amser, a newid yn gyflym,” meddai.

“Dyw e ddim fel bod pethau wedi bod yn aros yn stond ers misoedd, mae rhywbeth yn digwydd trwy’r amser ar y funud fel bod yr interest rates yn mynd lan.

“Mae e’n anodd iawn i bobol sy’n prynu tŷ wybod le maen nhw’n sefyll, os maen nhw’n gallu fforddio fe.

“Dydyn ni heb weld eto bobol yn tynnu allan o transactions, ond efallai y byddwn ni’n dechrau gweld hynna’n digwydd mwy nawr achos fydd pobol yn gorfod meddwl: ‘Roeddwn i’n mynd i allu fforddio’r tŷ, nawr fi methu fforddio fe’.

“Wedyn, achos be’ sy’n mynd ymlaen ar y newyddion, beth rydyn ni’n ei weld wedyn gyda phobol sy’n gwerthu tai, maen nhw’n dechrau poeni os ydy’r person sy’n prynu oddi wrthyn nhw’n mynd i allu fforddio fe, ydyn nhw am allu mynd drwodd.

“Mae pob un ar hyn o bryd i weld yn panicio ychydig bach, a gawn ni weld beth sydd am ddigwydd yn y dyfodol.

“Mae pob un sydd â morgais yn barod, os ydyn nhw ar rates sy’n fixed neu’n glwm, maen nhw’n gwybod le maen nhw’n sefyll.

“Ond efallai bod pobol sydd â morgais ac mae eu tymor nhw nawr yn dod i ben ac maen nhw’n mynd i’r farchnad ac efallai bydd eu rate nhw’n uwch nawr.

“Mae hwnna am fod yn sioc i bob un, achos mae hwnna’n mynd i effeithio ar daliadau morgais.”

‘Arafu lawr’

Mae pethau’n ansicr iawn ar hyn o bryd, yn ôl Wyn Williams, ond mae’n rhagweld y bydd prisiau tai yn gostwng “ychydig bach”.

“Yn dibynnu ar ba ardal o Gaerdydd ydych chi ynddi, mae lot o ardaloedd lle mae prinder tai,” meddai.

“Mae e’n drist achos dyw pobol methu cael tai.

“I bob tŷ sy’n dod ar y farchnad, os ti’n siarad gyda estate agent, efallai bydd deg i 20 o bobol yn edrych ar y tŷ yna. Mae’r demand dal yna am y tai, ond y cwestiwn yw, a ydy pob un yn mynd i allu fforddio cael y morgais?”

Mae’r un yn wir am dai rhent, meddai Wyn Williams, gan gyfeirio at un teulu wnaeth roi £5,000 lawr ar dŷ rhent er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael y tŷ gan fod y galw mor fawr.

“Dydyn ni ddim yn siarad ambyti palas na dim byd, ti jyst yn siarad am dŷ bog standard, teras yng Nghasnewydd,” meddai.

“Mae gymaint o gystadleuaeth rhwng pobol sy’n edrych i rentu hefyd, a does dim digon o dai i’w rhentu na phrynu yn unman.

“Sa i’n gweld pethau’n cwympo’n ddychrynllyd achos bydd y llywodraeth a’r banciau pallu gadael i hynny ddigwydd.

Flattening of the market fydden i’n dweud, ond mae’n dibynnu lle wyt ti.”

Ynghyd â diffyg tai o fewn cyrraedd pobol sy’n prynu am y tro cyntaf, mae yna brinder tai ar gyfer yr henoed sydd eisiau symud i dai llai hefyd, yn ôl Wyn Williams.

“Fydd hi’n ddiddorol gweld be ddigwyddith, dw i’n credu eith prisiau lawr ond sa i’n disgwyl Armagedon, sa i’n disgwyl i brisiau gwympo off the scale,” meddai.

“Dw i’n credu bydd e jyst yn arafu lawr.

“Bydd dal gyda ti bobol sy’n gallu prynu, bydd digon o arian gyda nhw i gael morgais os ydyn nhw eisiau morgais, ond bydd y gap rhwng y bobol dlawd a’r bobol sydd gydag arian yn tyfu – mae e’n tyfu bob dydd.

“Mae hi’n mynd i fod yn anoddach i brynwyr, yn enwedig rhywun sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf, i gael gafael ar dŷ achos mae prinder tai ar gael.

“Hyd yn oed os ydyn nhw’n gallu fforddio fe, y broblem yw o le mae’r tai yn dod? O le mae’r stoc yn dod?”

Tro pedol ar ddiddymu’r gyfradd 45c ar dreth incwm “ond yn deg”, yn ôl economegydd

Elin Wyn Owen

Mewn neges ar Twitter, dywedodd y Canghellor Kwasi Kwarteng bod y mesur yn tynnu sylw oddi wrth ei amcan i dyfu’r economi

“Polisïau economaidd ffantasïol” Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn peryglu economi’r Deyrnas Unedig

Huw Bebb

“Rydan ni’n symud o’r byd ffantasi i’r byd go iawn ac mae pobol yn mynd i ddioddef oherwydd bod y bobol yma wedi cael rhoi ei ffantasïau ar waith”

‘Rheolau treth tai newydd am helpu prynwyr tro cyntaf’

Ni fydd rhaid i bobol sy’n prynu cartrefi yng Nghymru am lai na £225,000 dalu unrhyw dreth o dan fesurau newydd