Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig ymweliad am ddim ag unrhyw un o’u safleoedd yn y wlad yn ystod yr hydref.

Mae pob ymweliad am ddim ar gael i hyd at ddau oedolyn a phedwar plentyn, ac mae pob tocyn yn ddefnydd untro ac yn ddilys hyd at Dachwedd 30 eleni.

Bydd y rhan fwyaf o leoedd mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanyn nhw yn cymryd rhan, gan gynnwys cestyll, gerddi a phlastai Cymru.

“Mae pawb angen natur, felly am gyfnod cyfyngedig rydym yn cynnig ymweliad rhad ac am ddim i chi i le rydym yn gofalu amdano’r hydref hwn,” meddai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

“Ble bydd eich dihangfa yn mynd â chi?

“Os ydych eisoes yn aelod, gallwch ddefnyddio’ch ymweliad am ddim i ddod â ffrind neu aelod o’r teulu gyda chi.

“Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich dihangfa i’r hydref.”


Castell Penrhyn, Bangor

Wedi’i adeiladu ar ddechrau’r 19eg ganrif, mae ei bensaernïaeth aruthrol, ei du mewn a’i gasgliad celf gain yn pwyso ar hanes hir o ffortiwn siwgr a llechi, aflonyddwch cymdeithasol a’r anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.

Yn eiddo i’r teulu Pennant, mae Penrhyn yn enghraifft allweddol o’r ffordd y gwnaeth cyfoeth a ddeilliodd o gaethwasiaeth lunio amgylchedd adeiledig Cymru ac a oedd yn sail i hanesion gwaith lleol.

Castell Penrhyn
Llun: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol / John Millar

 


Tŷ a Gardd Plas Newydd, Llanfairpwll, Ynys Môn

Wedi’i leoli ar lannau’r Fenai yng nghanol golygfeydd syfrdanol o hardd, cafodd y tŷ hwn ei ailgynllunio gan James Wyatt yn y 18fed ganrif.

Mae’r tu mewn, a gafodd ei ail-lunio yn y 1930au, yn enwog am ei gysylltiad â Rex Whistler ac mae’n cynnwys ei furlun rhamantus coeth a’r arddangosfa fwyaf o’i weithiau.

Llun gan rickmassey1. CC BY 2.0.

Gardd Bodnant, ger Bae Colwyn

Wedi’i chreu dros 150 o flynyddoedd, gyda phlanhigion wedi’u casglu a’u cludo i Brydain o bell, a gweledigaeth anhygoel cenedlaethau o deulu McLaren a phrif arddwyr Puddle, mae gan yr hafan hon o brinder a harddwch gefndir godidog o fynyddoedd y Carneddau yn Eryri.

Llun gan T Wake. CC BY-SA 2.0.

Castell Cilgerran, ger Aberteifi

Mae Castell Cilgerran yn sefyll ar ben ceunant coediog dwfn yn edrych dros Afon Teifi.

Castell adfeiliedig o’r 13eg ganrif yw Castell Cilgerran ger Aberteifi yn Sir Benfro.

Mae lle i gredu bod y castell cyntaf ar y safle wedi’i adeiladu gan Gerallt Gymro rhwng 1110 a 1115, ac fe newidiodd ddwylo sawl gwaith dros y ganrif ganlynol rhwng lluoedd Lloegr a Chymru.

Yn nwylo William Marshal, 2il Iarll Penfro, y dechreuodd y gwaith o adeiladu’r castell carreg ar ôl 1223.

Ar ôl mynd trwy deuluoedd olynol, cafodd ei adael yn adfail, a’i adael yn y pen draw erbyn 1400.

Llun gan rhysun. CC BY 2.0.

Dinefwr, Llandeilo

Mae Dinefwr yn lle eiconig yn hanes Cymru, gyda dwy gaer yn dystiolaeth o bresenoldeb Rhufeinig dominyddol.

Roedd yr Arglwydd Rhys, oedd yn ffigwr pwerus, yn cynnal llys yn Ninefwr a ddylanwadodd ar benderfyniadau yng Nghymru.

Yn sefyll yn falch yng nghanol yr ystâd mae Newton House, cartref teuluol i ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus Teyrnas Gymreig y Deheubarth, am dros 300 mlynedd.

Dyluniodd y gweledyddion, George a Cecil Rice, y dirwedd o’r 18fed ganrif, sy’n cael ei hamddiffyn fel parcdir Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Llun gan Dave Hamster. CC BY 2.0.

Tŷ Tredegar, Casnewydd

Mae Tŷ Tredegar yn un o ryfeddodau pensaernïol Cymru ac yn un o’r tai mwyaf arwyddocaol o ddiwedd yr 17eg ganrif yn holl wledydd Prydain.

Am dros 500 mlynedd, bu’r tŷ yn gartref i un o’r teuluoedd Cymreig mwyaf, y Morganiaid, Arglwyddi Tredegar yn ddiweddarach.

Roedd y teulu Morgan yn berchen ar fwy na 40,000 o erwau yn Sir Fynwy, Sir Frycheiniog a Morgannwg ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Effeithiodd eu bywydau ar boblogaeth de-ddwyrain Cymru yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn wleidyddol, a dylanwadodd ar dreftadaeth yr ardal.

 

Llun gan muffinn. CC BY 2.0.

Castell Ynysgynwraidd, ger Y Fenni

Yn un o ‘Dri Chastell Gwent’ (ynghyd â Grysmwnt a’r Castell Gwyn), cafodd ei sefydlu gan yr arglwydd Normanaidd William fitz Osbern tua dechrau’r 12fed ganrif.

Mae olion Ynysgynwraidd a welwn heddiw yn tarddu o gaer ddiweddarach a gafodd ei hadeiladu yn y 13eg ganrif gan Hubert de Burgh.

Mae waliau’r castell, sydd mewn cyflwr da, yn amgylchynu gorthwr crwn, yn debyg i’r rheini a welir ym Mronllys a Thretŵr.

Cafodd ei adeiladu ar domen bridd, ac roedd y strwythur cadarn hwn yn llinell amddiffyn olaf pe byddai’r castell dan ymosodiad.

Rhyngddyn nhw, roedd y Tri Chastell yn rheoli ardal fawr o ffindir gwrthdrawiadol rhwng Afon Gwy a’r Mynydd Du, ac Ynysgynwraidd yn hawlio safle strategol ar lannau afon Mynwy uwchben un o’r prif lwybrau rhwng Cymru a Lloegr.

Llun gan Stuart Logan. CC BY-SA 2.0