Mae Cyngor Gwynedd wedi agor ymgynghoriad ar gynyddu’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Fis Mawrth, rhoddodd Llywodraeth Cymru y grym i awdurdodau lleol gynyddu uchafswm y Premiwm Treth Cyngor hyd at 300% o Ebrill 1 y flwyddyn nesaf.
Ar hyn o bryd, mae perchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag yn talu premiwm o 100%, a chyn hynny fe fuon nhw’n talu 50% rhwng Ebrill 2018 a 2021.
Cyn i’r Cyngor llawn wneud eu penderfyniad ar raddfa’r premiwm ar gyfer 2023/24, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn y cyhoedd am y posibilrwydd o gynyddu’r ganran yn uwch na 100%.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan Hydref 28, a bydd y canlyniadau yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor cyn i’r Cyngor llawn ddod i benderfyniad terfynol ar Ragfyr 1.
Arian i “ddarparu cartrefi fforddiadwy”
Dywed y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd, eu bod nhw’n falch o’r ffaith bod yr arian sy’n cael ei gasglu “wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu cartrefi fforddiadwy ac addas i bobol leol” ers i’r premiymau gael eu codi yn 2018.
“Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru, mae gennym yr hawl i gynyddu’r premiwm ymhellach,” meddai.
“Cyn i’r Cyngor llawn ddod i benderfyniad ar Ragfyr 1, rydym yn cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus yma er mwyn casglu barn y cyhoedd.
“Bydd hyn yn sicrhau y bydd gan bob Cynghorydd yr holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys adborth y cyhoedd ar effaith posib unrhyw newid ar gymunedau’r sir.
“Rydym felly yn annog pawb sydd â barn am y maes pwysig yma i fanteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud.”
Mae modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein, neu drwy gael copi papur o’r llyfrgell leol neu yn Siop Gwynedd, yn swyddfeydd y cyngor yng Nghaernarfon, Pwllheli a Dolgellau neu drwy ffonio 01286 682682.