Mae dyfodol llywodraeth glymblaid Catalwnia yn y fantol bellach, ar ôl i’r ddwy blaid lywodraeth fethu â dod i gytundeb.
Junts per Catalunya yw’r prif blaid y llywodraeth glymblaid, ac Esquerra Republicana yw’r partner iau.
Bydd pwyllgor gwaith Junts yn cyfarfod eto heddiw (dydd Llun, Hydref 3) i drafod y ffordd ymlaen, wrth iddyn nhw baratoi holi eu haelodau ddiwedd yr wythnos hon a ddylen nhw barhau’n rhan o’r llywodraeth neu beidio.
Roedd Junts wedi gosod terfyn amser, ddoe (dydd Sul, Hydref 2), er mwyn i Esquerra roi sêl bendith i’w gofynion, ond doedd dim modd dod i gytundeb cyn i’r terfyn amser gyrraedd.
Un o ofynion Junts oedd fod Pere Aragonès, yr arlywydd, yn ailbenodi ei ddirprwy Jordi Puigneró, a gafodd ei ddiswyddo yr wythnos ddiwethaf, wrth i’r arweinydd ddweud ei fod e wedi colli ffydd yn ei ddirprwy yn sgil ei fwriad i gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn yr arweinydd.
Ond mae lle i gredu nad oedd y gofyniad hwnnw wedi’i gynnwys yn y cytundeb drafft diweddaraf ac felly mae’r ansicrwydd yn parhau.
Ffrae
Yn ôl Jordi Puigneró, dydy aelodau o gabinet Junts ddim eisiau Esquerra Republicana yn rhan o’r llywodraeth.
Ers mis Gorffennaf, mae gan y partner iau yn y llywodraeth fwrdd gweithredol newydd, ac mae ymdeimlad cynyddol na all y drefn bresennol barhau.
Mae Junts yn cyhuddo Esquerra o beidio â dilyn y cytundeb llywodraeth rhwng y ddwy blaid, gan eu bod nhw wedi cytuno i gefnogi’r Blaid Sosialaidd ym Madrid ond hefyd i gefnogi pleidiau annibyniaeth Catalwnia – rhywbeth sy’n anghynaladwy, yn ôl y cyn-ddirprwy arlywydd.
Mae hyn hefyd yn ychwanegu at yr anghydweld dros y ffordd ymlaen o ran annibyniaeth – gyda’r naill blaid yn awyddus i drafod y sefyllfa gyda Sbaen a’r llall yn ffafrio dulliau mwy uniongyrchol o weithredu.