Mae cae yn Nhreffynnon yn cael ei glustnodi fel safle glampio o ganlyniad i arwyddocâd yr ardal i bererinion sy’n ymweld â safleoedd crefyddol yno.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cais cynllunio newid defnydd ar gyfer cae ym Mrynffordd, lle byddai pum pod glampio a thri chaban yn cael eu gosod.

Roedd cais blaenorol wedi cael ei wrthod, ond mae’r cais hwn yn cynnwys gostyngiad yn nifer y podiau a chabanau.

Mae’r datganiad cynllunio a threftadaeth sy’n gynwysiedig yn y cais yn nodi, “Mae’r safle hwn yn dir fferm sydd heb ei ddatblygu, gyda choed ar hyd ei ffiniau, ac eithrio wal gerrig isel a mynedfa drwy giât i’r de, a ffens weiren sydd wedi’i chysylltu â’r Cerbyty cyfagos.

“Mae’r safle wedi’i amgylchynu’n bennaf gan goed, gydag ychydig iawn o fylchau yn y rhes o goed ar Ffordd y Mynachdy. Mae’r safle y tu allan i ffiniau Carmel a Gorsedd ac felly’n gorwedd yn llwyr o fewn cefn gwlad agored.

“Credir y byddai’r safle’n werthfawr yn nhermau twristiaeth oherwydd arwyddocâd yr ardal i bererinion sy’n dod ymweld â’r safleoedd crefyddol lleol.”

Mae safle’r datblygiad arfaethedig yn agos i nifer o safleoedd treftadaeth dynodedig, gan gynnwys blwch ffôn rhestredig Gradd II ar Ffordd y Mynachdy, Mynachdy Gothig Ffransisgaidd, a Chapel a Ffynnon Gwenffrewi.

Mae’r sawl sy’n gwneud y cais yn credu, pe bai’r cynlluniau’n cael sêl bendith, y byddai’r datblygiad yn cynnig llety twristaidd o safon i bobol sy’n ymweld â’r safleoedd hynny.

Ychwanega’r datganiad, “Byddai’r safle arfaethedig yn fuddiol i’r ardal, gan y byddai’n cynnig llety twristaidd da o safon y mae mawr ei angen i ymwelwyr â’r asedau treftadaeth cyfagos.

“Byddai’r safle’n cael ei ddatblygu yn y fath fodd fel ei fod yn ystyried sensitifrwydd yr Ardal Gadwraeth a’i hasedau treftadaeth cyfoethog cyfagos ac felly, byddai hyn yn cael ei ystyried wrth ddylunio ac o ran y deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer adeiladau ar y safle.”

Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir y Fflint yn gwneud penderfyniad ynghylch y cais yn y dyfodol.