Mae Llywodraeth Cymru wedi treblu eu targedau i adfer mawndiroedd fel rhan o’u haddewid i adfer natur.

Yn unol ag argymhellion gan fwrdd ‘Plymio Dwfn Bioamrywiaeth’, a gafodd eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i asesu’r ffordd orau i gyflymu adferiad byd natur, bydd yr ymdrechion i adfer mawndiroedd yn dwysáu.

Mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar nod ’30 erbyn 30’ y Cenhedloedd Unedig, sy’n anelu at warchod a rheoli 30% o amgylchedd morol y blaned a 30% o dir y blaned yn effeithiol erbyn 2030.

Bydd gweithgor arbenigol annibynnol yn cael ei sefydlu er mwyn monitro’r cynnydd yng Nghymru hefyd.

Mae’r argymhellion eraill yn cynnwys:

  • Sicrhau bod penderfyniadau cynllunio tir a morol yn ystyried bioamrywiaeth a bod penderfyniadau da yn cael eu cymell
  • Datgloi potensial tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) fel eu bod yn darparu mwy ar gyfer natur
  • Adeiladu sylfaen gref ar gyfer cyflawni yn y dyfodol drwy feithrin gallu, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau
  • Trawsnewid portffolio safleoedd gwarchodedig Cymru fel ei fod wedi’i gysylltu’n well, yn fwy ac yn fwy effeithiol fel bod planhigion a bywyd gwyllt yn gallu teithio ac addasu i newid yn yr hinsawdd

Wrth siarad o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle bu’r arbenigwyr yn trafod targedau Plymio Dwfn Bioamrywiaeth, fe wnaeth Julie James, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Cymru, addo troi’r cyngor yn weithredu.

“Os byddwn ni’n rhoi help llaw i fyd natur mae’n dychwelyd y rhodd sawl gwaith,” meddai Julie James.

“Mae’r Plymio Dwfn Bioamrywiaeth heddiw yn ein helpu ni i ailfeddwl ar fyrder am ein perthynas ni â byd natur a sut i wneud y dewisiadau gorau nesaf sydd o fudd i ni a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

“Dyma pam ein bod ni, gyda’r Gweinidog Materion Gwledig, yn treblu ein targedau adfer mawndiroedd i roi hwb i bryfed ac adar a dod â sicrwydd i’n cyflenwad dŵr croyw yng Nghymru.”

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud y bydd y camau brys sy’n cael eu cymryd dros y degawd nesaf yn pennu pa mor ddifrifol yw’r argyfwng hinsawdd a natur.

“Mae arnom ni angen ymdrech Tîm Cymru i ysgogi degawd o weithredu pendant fel ein bod yn gallu atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth a rhoi hwb i’r gwaith o adfer ein hecosystemau i’w hen ogoniant,” meddai Julie James.

“Mae ein hiechyd, ein hapusrwydd a’n dyfodol yn dibynnu ar hyn.”

‘Rhoi ar waith ar frys’

Cafodd argymhellion Plymio Dwfn eu cyhoeddi cyn cynhadledd COP15 yng Nghanada fis Rhagfyr.

“Wrth i ni nesáu at Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 ym Montreal ym mis Rhagfyr, lle rydyn ni eisiau i arweinwyr byd-eang gytuno ar dargedau uchelgeisiol i adfer byd natur, ni allai’r Plymio Dwfn yma fod wedi’i gynnal ar amser pwysicach,” meddai Sharon Thompson, sy’n aelod o RSPB Cymru a’r panel Plymio Dwfn Bioamrywiaeth.

“Rydyn ni mewn Argyfwng Natur a Hinsawdd, a gyda’r potensial o fygythiadau gwirioneddol sylweddol i fyd natur mewn mannau eraill, mae’n hollbwysig gwneud yn siŵr bod argymhellion y Plymio Dwfn yn cael eu rhoi ar waith ar frys yng Nghymru.”

Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd compost mawn

Cadi Dafydd

“Dylid bod wedi gwneud hyn ddegawdau yn ôl, mae’n esiampl arall o ddiwydiant yn llusgo’u traed,” medd Cyfeillion y Ddaear Cymru