Mae’r cyn-aelod cabinet Nadine Dorries wedi awgrymu y dylai Liz Truss alw etholiad cyffredinol, ac mae un aelod seneddol Llafur o Gymru’n cytuno.
Yn ôl Nadine Dorries, mae yna “siom eang” gan nad yw’r Prif Weinidog wedi dilyn cynlluniau Boris Johnson.
Roedd hi’n un o’r rhai wnaeth gefnogi Liz Truss yn ras arweinyddol y Ceidwadwyr.
Ond dywedodd heddiw (dydd Llun, Hydref 3) ar Twitter fod yna “siom eang bod tair blynedd o waith wedi cael ei roi ar stop, i bob pwrpas”.
“Ni ofynnodd neb am hyn,” meddai.
“Gwerthiant Channel 4, diogelwch ar-lein, adolygu ffi trwydded y BBC, i gyd yn bethau gafodd eu harwyddo gan y Cabinet, i gyd wedi stopio.
“Os ydy Liz eisiau mandad hollol newydd, rhaid iddi fynd at y wlad.”
Fe wnaeth Nadine Dories y sylwadau wrth ymateb i sylwadau gan gyd-awdur maniffesto’r Ceidwadwyr ar gyfer etholiad cyffredinol 2019, a ddywedodd fod Liz Truss wedi ennill y ras arweinyddol “yn rhannol yn sgil ei ffyddlondeb ymddangosol tuag at Boris Johnson – ond bod y Llywodraeth hon wedi cael gwared ar bopeth yr oedd e’n ei gynrychioli”.
‘Hyn gan gefnogwr’
Dywed Nadine Dorries hefyd nad oes gan y llywodraeth fandad democrataidd na Seneddol.
“Ac mae hyn gan gefnogwr,” meddai Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, wrth ymateb i’w sylwadau.
“Er, mae hi’n iawn am yr etholiad.”
‘Am ddiwrnod!’
Daw hyn wedi i’r Canghellor Kwasi Kwarteng wneud tro pedol fore heddiw (dydd Llun, Hydref 3), a chael gwared ar gynlluniau i ddiddymu’r gyfradd 45c ar y dreth incwm.
Wrth siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham, dywedodd y bydd cynlluniau economaidd y Llywodraeth yn “mynd â’r wlad yn ei blaen”.
Ond yn ôl Kwasi Kwarteng, mae angen gwneud pethau’n wahanol er mwyn tyfu’r economi.
“Am ddiwrnod! Mae hi wedi bod yn anodd ond rydyn ni angen canolbwyntio ar y gwaith, rydyn ni angen symud ymlaen, dim mwy o amhariadau,” meddai.
“Mae gennym ni gynllun, rydyn ni angen mynd yn ei blaenau a chyflawni, dyna mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl.
“Dw i’n gwybod bod y cynllun gafodd ei gyflwyno ddeng niwrnod yn ôl wedi achosi ychydig o gynnwrf, dw i’n deall.
“Rydyn ni’n gwrando, ac wedi gwrando, a nawr dw i eisiau canolbwyntio ar ddarparu rhannau o’r pecyn twf.
“Gyda biliau ynni’n cynyddu’n sydyn, gwaddol poenus Covid, rhyfel ar y cyfandir, baich trethi ar ei uchaf ers 70 mlynedd, cyfraddau twf byd-eang yn arafu, isadeiledd yn cael ei adeiladu’n eithriadol o araf, fedrwn ni ddim gwneud dim byd. Fedrwn ni ddim eistedd a gwneud dim.
“Beth mae Prydain ei angen fwy nag erioed ydy twf economaidd, a llywodraeth sy’n gwbl ymroddedig i greu twf economaidd.
“Dyna pam ein bod ni’n creu cytundeb economaidd newydd i Brydain.”