Bydd profion sgrinio canser y coluddyn ar gael i fwy o bobol yng Nghymru, wrth i brofion cartref gael eu hymestyn i gynnwys pobol 55 i 57 oed.

Golyga hyn y bydd 172,000 yn fwy o bobol yng Nghymru yn dechrau cael pecynnau hawdd eu defnyddio sy’n profi am ganser cyfnod cynnar yn y coluddyn.

Mae’r cam hwn yn rhan o ddull fesul cam o ostwng yr oedran sgrinio i 50 erbyn mis Hydref 2024.

Bydd pobol 55, 56 a 57 oed yn dechrau cael eu gwahodd i gael eu sgrinio o ddydd Mercher (Hydref 5), a bydd eu pecynnau profi gartref yn cyrraedd drwy’r post.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno i’r grŵp oedran cymwys newydd yn raddol dros y 12 mis nesaf.

Buddsoddi £16 miliwn

Yn rhan o becyn buddsoddi gwerth £16m gan Lywodraeth Cymru, mae’r cyllid wedi cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r pecyn profi gartref FIT (Prawf Imiwnocemegol ar Ysgarthion), sy’n newydd ac yn haws ei ddefnyddio.

Mae’r pecynnau profi gartref newydd wedi helpu i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y prawf sgrinio i 65% ac maen nhw’n fwy sensitif er mwyn canfod rhagor o bobol sydd mewn perygl o ddatblygu canser y coluddyn.

Cafodd mwy na 2,500 o bobol ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2019.

Mae’r rhaglen sgrinio yn chwarae rhan bwysig wrth ganfod canser yn gynharach, ac yn helpu i wella canlyniadau canser yng Nghymru.

Mae’r penderfyniad i ostwng yr oedran sgrinio yn seiliedig ar argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

Ymgais i wella cyfraddau goroesi

“Mae’n wych gweld cam nesaf ein cynllun i ehangu’r mynediad at raglen sgrinio canser y coluddyn yn dod i rym,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Rydym eisoes wedi cyflwyno’r prawf haws ei ddefnyddio, ac wedi dechrau gwahodd unigolion 58-59 oed.

“Mae’r cam nesaf hwn o’r rhaglen yn ehangu mynediad i’r rhai 55-57 oed.

“Bydd hyn yn ein helpu i ddarganfod mwy o achosion o ganser y coluddyn yn gynnar ac yn cynorthwyo i sicrhau gwelliannau mewn cyfraddau goroesi.

“Rwy’n falch o weld hefyd bod mwy o bobol yn cymryd rhan yn y rhaglen a bod y cyfraddau sy’n manteisio ar y profion sgrinio nawr yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig.

“Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu parhau i wella’r rhaglen drwy ostwng yr ystod oedran i 50 a gwella sensitifrwydd y prawf nes y byddwn yn cyd-fynd ag argymhellion y Deyrnas Unedig.”

‘Cam i’r cyfeiriad cywir’

Dywed Genevieve Edwards, Prif Weithredwr yr elusen Bowel Cancer UK fod y newid “yn gam i’r cyfeiriad cywir tuag at sgrinio o 50 oed yng Nghymru”, sy’n “rywbeth rydym wedi ymgyrchu amdano ers peth amser”.

“Sgrinio yw un o’r ffyrdd gorau o roi diagnosis cynnar o ganser y coluddyn, a’i atal yn y lle cyntaf mewn rhai achosion, felly rydym yn croesawu’r penderfyniad i wahodd mwy o bobol i gymryd rhan,” meddai.

“Cynnig y pecyn profi gartref i fwy o bobol yw un ffordd o wella rhaglen sgrinio’r coluddyn.

“Fodd bynnag, y rhwystr mwyaf i wella diagnosis cynnar, a chynnig rhaglen sgrinio o’r radd flaenaf, yw’r prinder gweithwyr hirdymor yn y gwasanaethau endosgopi a phatholeg.

“Mae angen inni fynd i’r afael â hyn ar frys drwy gynllun gweithlu cynhwysfawr a all gefnogi rhaglen sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru i gyrraedd ei photensial llawn.”

‘Annog pawb sy’n cael gwahoddiad i fanteisio ar y cynnig’

“Rwyf wrth fy modd ein bod yn ehangu rhaglen sgrinio canser y coluddyn i gynnwys y rhai sy’n 55, 56 a 57 oed yng Nghymru,” meddai Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Nod rhaglen sgrinio canser y coluddyn yw canfod canser yn gynnar, ar adeg pan fydd triniaeth yn fwy tebygol o fod yn effeithiol.

“Mae canfod canser yn gynnar yn arbennig o bwysig gan y bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobol yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ddarganfod a’i drin yn gynnar.

“Mae rhaglen sgrinio canser y coluddyn hefyd yn canfod polypau cyn-ganseraidd sydd angen eu tynnu gan y gallant ddatblygu i fod yn ganser os cânt eu gadael yn y coluddyn.

“Bydd y gwahoddiad a’r pecyn profi yn cyrraedd yr unigolion cymwys drwy’r post yn ystod y 12 mis nesaf. Mae’r pecyn profi yn hawdd ei ddefnyddio a’i anfon i’n labordy i’w ddadansoddi.

“Rwy’n annog pawb sy’n cael gwahoddiad i fanteisio ar y cynnig hwn gan y gall achub eu bywyd.”