Mae llefarydd tai Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “lusgo eu sodlau” dros ddechrau’r “gwaith hollbwysig” o edrych eto ar ddeddfu rhewi rhent a moratoriwm ar droi allan tenantiaid.

Yr wythnos ddiwethaf ym mhwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd, galwodd Mabon ap Gwynfor eto am waharddiad ar bob gorchymyn troi allan ac i bob rhent gael ei rewi tan ar ôl y gaeaf, fel gafodd ei gyhoeddi yn yr Alban.

Wrth ymateb, cadarnhaodd Julie James, y gweinidog sy’n gyfrifol am dai, ei bod yn edrych ar opsiynau a’i bod “yn mynd ati i gysylltu” â Llywodraeth yr Alban, er nad oedd wedi mynd ati i adolygu eu hymchwil bryd hynny.

Daeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth yr Alban eu bod nhw am rewi rhenti a gwahardd troi pobol allan ar Fedi 6, ac mae disgwyl i fesurau’r Alban aros yn eu lle tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Llywodraeth Lafur yn “llaesu dwylo tra bod Cymru yn rhewi”

Dywedodd Mabon ap Gwynfor: “Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn llaesu dwylo tra bod Cymru yn rhewi,” meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.

“Does dim synnwyr o frys, ac yn y cyfamser, mae’r gaeaf oer yn agosáu.

“Dylai’r gwaith hwnnw fod wedi ei gomisiynu a’i gwblhau cyn gynted â phosib, ac eto rydyn ni’n darganfod fod Llywodraeth Cymru dal wrthi yn casglu tystiolaeth.

“Roedd Plaid Cymru yn gweld hyn yn dod o bell ac wedi ailadrodd ein galwadau ar bob cyfle.

“Bu nifer o ymgyrchwyr ac elusennau gwrth dlodi, gan gynnwys Shelter Cymru, yn galw am hyn.

“Mae’n amlwg bod Llywodraeth yr Alban wedi gwneud eu gwaith.

“Yn y cyfamser mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn llusgo ei sodlau.

“Mae amser yn brin iawn, ac mae angen i Lywodraeth Cymru nodi eu hamserlen ar frys ar gyfer pryd y gellid gweithredu, oherwydd bydd y gaeaf arnom cyn i ni wybod hynny.”