Mae undebau llafur yn dod ynghyd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 4) ar gyfer lansiad cynllun gweithredu deg pwynt i sicrhau gweithleoedd gwrth-hiliaeth.
Bydd y cynllun gweithredu’n tynnu sylw at sut y gall gweithleoedd gymryd camau er mwyn dod yn wrth-hiliaeth, gan gynnwys rhoi hyfforddiant, archwilio gweithleoedd, newid arferion recriwtio, a dileu cytundebau oriau sero.
Bydd undebau’n cydweithio â’u haelodau a’u cynrychiolwyr ledled y wlad i weithredu pob un o’r pwyntiau dros y flwyddyn nesaf, fel bod un pwynt yn cael ei ddatblygu bob mis mewn gweithleoedd ar hyd a lled Cymru.
‘Dydy gweithleoedd dal ddim yn llefydd cydradd’
“Dydy gweithleoedd dal ddim yn llefydd cydradd, ac mae angen gweithredu er mwyn newid hynny,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Cymru.
“Mae undebau’n allweddol wrth wneud y newidiadau hyn trwy fargeinio, negodi a gweithredu ar y cyd.
“Rydym yn hyderus yn ein gwerthoedd ar y cyd, sef parch a chydraddoldeb i bob person yng Nghymru.
“Y Mis Hanes Du hwn, rydym yn falch o restru’r camau y gallwn ni eu cymryd.
“A hwythau wedi’u hanelu at gynrychiolwyr ac aelodau undebau, maen nhw’n amlinellu sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth yn ein gweithleoedd.
“Rydym yn gwybod beth yw hiliaeth, rydym yn gwybod pa mor niweidiol yw hiliaeth i bobol ac i’n cymunedau.
“Rydym wedi siarad â’r llywodraeth, rydym wedi cyfrannu at bolisïau, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau a chynlluniau.
“Nawr yw’r adeg i weithredu fel y gallwn ni wneud symudiadau go iawn tuag at wrth-hiliaeth.”