Mae rhagor o alwadau am ymchwiliad Covid penodol i Gymru heddiw (dydd Mawrth, Hydref 4), wrth i ymchwiliad y Deyrnas Unedig ddechrau.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae teuluoedd Cymreig sy’n galaru yn haeddu ymchwiliad sy’n rhoi sylw llawn i’r penderfyniadau gafodd eu gwneud ym Mae Caerdydd.

Fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gwrthod cynnal ymchwiliad penodol ar gyfer Cymru dro ar ôl tro gan ddweud bod angen ystyried penderfyniadau’r Senedd o fewn cyd-destun ehangach.

‘Osgoi craffu’

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo’r Blaid Lafur o “osgoi craffu a cholli cyfle i sicrhau bod Cymru’n gwbl barod ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol”.

“Roedd y penderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru, gan ein Llywodraeth ddatganoledig yn aml yn wahanol, ac roedd ganddyn nhw effaith, boed yn un negyddol neu gadarnhaol,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn creu’n gryf mewn datganoli, ond mae angen i Lafur Cymru ddeall bod mwy o graffu yn dod gyda mwy o rymoedd.

“Ni ddylid trio osgoi hyn.

“Byddwn yn annog y Prif Weinidog a Llafur Cymru eto i ailystyried eu barn.

“Nid gosod bai yw pwrpas yr ymchwiliad, ond yn hytrach i ddysgu gwersi hanfodol fel ein bod ni wedi’n paratoi’n well ar gyfer y dyfodol.”

‘Ystyriaeth ofalus’

Daeth cyhoeddiad ym mis Gorffennaf y bydd tri modiwl i ymchwiliad y Deyrnas Unedig, ond dim ond yr ail fodiwl sy’n rhoi ystyriaeth benodol i Gymru.

Er hynny, mae’r Farwnes Hallett, cadeirydd yr ymchwiliad, yn dweud y bydd Modiwl 1 a 3 yn cynnwys ymchwiliad i weithredoedd Llywodraeth Cymru hefyd, er na fyddan nhw’n dilyn yr un strwythur.

“Bydd yr Ymchwiliad yn troi at ymchwilio’r penderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru ac effaith y pandemig yng Nghymru eto drwy gydol eu gwaith yn y dyfodol,” meddai ysgrifennydd yr ymchwiliad ar ei rhan.

“Dydy’r cadeirydd heb gyhoeddi modiwlau’r dyfodol eto, ond fedra i eich sicrhau ein bod ni’n benderfynol o wneud yn siŵr bod gweithredoedd llywodraeth Cymru, ac eraill oedd ynghlwm â’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru, yn cael ystyriaeth ofalus yn yr ymchwiliad.”