Bydd rheolau’r Parthau Perygl Nitradau, neu NVZs, yn rhoi ffermwyr Cymru “dan anfantais”, yn ôl cynghorydd sir.
Yn ôl Wyn Evans, sy’n ffermio yn Nyffryn Ystwyth ac yn gynghorydd annibynnol ar Gyngor Ceredigion, bydd rhaid i nifer o fusnesau leihau maint eu stoc yn sgil y rheolau.
Cafodd y parthau eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru fis Ebrill y llynedd, gyda’r bwriad o leihau llygredd mewn afonydd sy’n cael ei achosi gan y sector amaethyddol.
Mae’r ddeddfwriaeth yn golygu bod cyfyngiadau ar ddefnyddio rhai gwrteithiau a bod rhai wedi cael eu gwahardd yn llwyr.
Cafodd y ddeddf ei chyflwyno yn sgil pryderon bod dŵr yfed a bywyd gwyllt wedi cael eu heffeithio gan sylweddau nitradau mewn rhai ardaloedd.
‘Ffermwyr Cymru dan anfantais’
Mae’r Parth Perygl Nitradau yn cynnwys Cymru i gyd, a dadl Wyn Evans ydy y dylid targedu’r ardaloedd lle mae problem.
“Bydd y rheolau yma’n cael cryn dipyn o effaith ar y diwydiant yma yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.
“Rhaid i ni gofio bod hwn yn ofyniad sydd ar draws Cymru i gyd. Mewn gwledydd eraill, fel Lloegr er enghraifft, mae e’n ofyniad mewn ardaloedd arbennig ond i Gymru mae e’n gyfyngiad i’r wlad i gyd.
“Bydd pob ffarmwr yn cael ei effeithio gyda hyn.
“Peth arall i’n rhoi ni dan anfantais yng Nghymru, mae’r limitations i ddefnyddio gwrtaith gyda lefelau nitrogen o 170 kilogram yr hectar yng Nghymru. Yn Lloegr, maen nhw dal i gael defnyddio 250 kilogram yr hectar.
“Felly, mae tipyn o waith ac mae Cymru dan anfantais fawr.”
Bydd y rheolau’n dod i rym ym mis Ionawr, gyda gofyniad i ffermwyr greu mapiau risg Parthau Perygl Nitradau, cynlluniau rheoli maeth, a chofnodion mewnforio ac allforio gwrtaith ymysg y newidiadau.
O fis Awst 2024, bydd rheolau pellach er mwyn storio slyri yn dod i rym, ac mae ffermwyr yn wynebu “cryn dipyn o gostau yn y cyfamser i gael eu storfeydd lan i’r safon angenrheidiol”, yn ôl Wyn Evans.
“Gewch chi wneud unrhyw waith adeiladu nawr, ac mae prisiau’r nwyddau, prisiau dur… mae’n rhaid cael lot o ddur, lot o goncrid mewn rhoi storfa newydd lan neu ehangu storfa,” meddai.
“Mae e’n meddwl cryn dipyn o fuddsoddiad, ac mae prisiau’r pethau yma wedi mynd drwy’r to.”
Targedu ardaloedd penodol
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar y polisi yn ddwys, meddai Wyn Evans.
“Mae’n rhaid edrych ar systemau lle maen nhw wedi symud ymlaen o whole territory NVZs mewn i agwedd wedi’i dargedu yn fwy – canolbwyntio ar yr ardaloedd sydd â phroblemau a thrio gweithio gyda’r ffermwyr sy’n byw yn yr ardaloedd yna i drio lleihau’r nitradau sy’n mynd mewn i’r dŵr.
“Dyna’r ffordd gywir ymlaen, a byddai hwnna’n meddwl bod dim anferthol o gostau’n dod ar ffermwyr sydd ddim o reidrwydd â phroblem o gwbl. Mae e’n rhoi cost ddiangen ar y diwydiant yn gyffredinol.
“Bydd nifer o fusnesau yn lleihau’r nifer o wartheg maen nhw’n cadw achos o’r cyfyngiadau.
“Mae hwnna’n meddwl knock on effect mawr ar y cylch prynu nwyddau yng nghefn gwlad. Bydd pawb yn teimlo effaith hwn, dim jyst y ffarmwr. Bydd y person sy’n gwerthu tractorau, y person sy’n cyflenwi bwyd anifeiliaid, bydd pawb yn teimlo effaith y polisi yma sydd gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.”
‘Gweithio gyda’n gilydd’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i daclo llygredd yn ein dyfroedd a chefnogi ein diwydiant ffermio.
“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned ffermio i wella ansawdd dŵr ac ansawdd aer, gan ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021, gan dargedu y gweithgareddau rydyn ni’n gwybod sy’n achosi llygredd.”