Mae cannoedd o weithwyr y sector gyhoeddus yng Nghymru wedi gorfod gwerthu eiddo a thros 1,000 wedi mynd heb brydau yn sgil yr argyfwng costau byw, yn ôl arolwg newydd.
Yn ôl yr arolwg gan undeb UNSAIN, roedd 404 o’r 6,000 o weithwyr a gafodd eu holi wedi gorfod gwerthu eiddo i oroesi, ac roedd 1,025 wedi mynd heb fwyd.
Roedd 247 o’r gweithwyr wedi gorfod defnyddio banciau bwyd, a 1,188 wedi gorfod gofyn am gymorth ariannol gan ffrindiau neu deulu.
Cafodd yr arolwg ei wneud cyn i’r undeb gynnal rali yng Nghaerdydd ddydd Iau (Hydref 6) yn galw am weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng.
‘Bwlch amlwg rhyngddyn nhw a ni’
Dywed Dominic MacAskill, ysgrifennydd rhanbarthol UNSAIN Cymru, fod yr arolwg diweddar yn dangos bod bygythiad digartrefedd, newyn a thlodi ymysg gweithwyr yn “realiti dyddiol” i weithwyr y sector cyhoeddus a’u teuluoedd.
“Mae cannoedd o weithwyr UNSAIN dros yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi na’u talu ddigon,” meddai.
“Rydyn ni’n byw dan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan sy’n creu cyllidebau ‘bychan’ sy’n buddio aelodau cyfoethocaf y gymdeithas ac yn tanseilio anghenion y mwyafrif llethol o bobol.
“Mae yna fwlch amlwg rhyngthyn nhw a ni nawr, ac angen taer am ymateb sosialaidd ehangach wedi cael ei arwain gan y symudiad llafur.”
‘Ofn a dioddefaint’
Mae Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, wedi cynnal arolwg ymysg ei hetholwyr, a bydd hi’n siarad yn y rali ddydd Iau.
“Mae’r adroddiad costau byw y gwnes i ei gwblhau yng Nghwm Cynon yn gynharach eleni’n rhoi goleuni ar lefel yr ofn a’r dioddefaint yn ein cymunedau,” meddai.
“Fe wnaeth dros 80% o bobol adrodd bod arian yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, a dywedodd 40% nad ydyn nhw am roi’r gwres ymlaen o gwbl yn y flwyddyn nesaf.
“Dywedodd un person eu bod nhw’n teimlo’n euog am ddod â phlentyn i’r byd, hyd yn oed.
“San Steffan sy’n gyfrifol am y pwrs, ond ni all gweithwyr fforddio aros i Lafur ddod i rym, felly rydyn ni angen gweithredu nawr.”
‘Pawb â rôl’
Bydd Shavanah Taj, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, yn siarad yn y rali hefyd, a dywed fod gweithwyr Cymru’n wynebu “ansicrwydd enfawr” dros y gaeaf.
“Mae cannoedd ar filoedd o bobol yn ansicr sut y bydd eu biliau ynni’n edrych,” meddai.
“Mae hi’n bwysicach nag erioed bod gweithwyr yn cydsefyll i amddiffyn eu tâl a’u hamodau gwaith. Mae gan bawb rôl i’w chwarae yn y frwydr hon.”
Bydd y rali yn cael ei chynnal am 5.30 nos Iau (Hydref 7) yng Ngwesty’r Radisson Blu yng Nghaerdydd.