Owain Wyn Evans yw cyflwynydd sioe frecwast newydd sbon Radio 2, ac fe fydd y Cymro Cymraeg yn cyflwyno’r sioe o Gymru bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 4 o’r gloch a 6.30yb.

Dyma’r tro cyntaf i sioe frecwast yr orsaf symud allan o Lundain, ac mae’n rhan o gynlluniau Across The UK y BBC a gafodd eu cyhoeddi y llynedd yn y gobaith o wasanaethu a chynrychioli pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Bydd y sioe yn cael ei chyflwyno o stiwdios BBC Cymru yng Nghaerdydd, ac mae gwahoddiad i gwmnïau cynhyrchu gyflwyno cais am y tendr o fis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Mae Owain Wyn Evans yn gyflwynydd teledu a radio ers dros ugain mlynedd bellach, ac fe ddechreuodd ei yrfa fel cyflwynydd plant yn 18 oed yng Nghymru cyn dod yn gyflwynydd tywydd ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’n olynu Vanessa Feltz, oedd wedi rhoi’r gorau i gyflwyno’r sioe ym mis Gorffennaf eleni.

Yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru, aeth Owain Wyn Evans o’r fan honno i gyflwyno sioeau ar sawl gorsaf arall, gan gynnwys gorsafoedd lleol y BBC yng Nghaerefrog, Leeds a Manceinion, ac mae e hefyd wedi cyflwyno nifer o sgyrsiau i wasanaeth BBC Sounds gyda Little Mix, Kylie Minogue, Dolly Parton ac eraill.

Yn ddrymiwr o fri, fe ddaeth i amlygrwydd ar draws y byd pan gynhyrchodd e fideo ohono fe ei hun yn drymio i gyfeiliant cerddoriaeth rhaglen newyddion y BBC, ac fe gafodd ei gwylio filiynau o weithiau ar y we.

Owain Wyn Evans yn perfformio ei drwmathon

Aeth yn ei flaen i ddrymio’n ddi-stop am 24 awr i godi arian at Blant Mewn Angen, gan godi dros £3.8m – yr her fwyaf llwyddiannus yn hanes rhaglenni Plant Mewn Angen ar y BBC.

‘Bore da dahlings!’

“Pan holais fy rhieni am bar o fyrddau troelli a desg gymysgu o siop DJ yn Llanelli pan o’n i’n 13, wnes i byth ganiatáu i mi’n hun freuddwydio y byswn i’n cael fy rhaglen fy hun ar Radio 2!” meddai Owain Wyn Evans.

“Alla i ddim aros i ddechrau’r diwrnod ar yr Early Breakfast yn fyw o Gaerdydd.

“Bore da dahlings fel ryn ni’n ei gweud yng Nghymru!”

Mae Helen Thomas, Pennaeth Radio 2, wedi ei groesawu i’r rôl ac “i deulu Radio 2”.

“Mae ei gysylltiad dwfn â Chymru yn glir ac rwy’ wrth fy modd y bydd o’n darlledu’n fyw o Gaerdydd bob bore Llun i Gwener,” meddai.

“Mae ei gynhesrwydd a’i hiwmor yn ei wneud yn gyflwynydd perffaith i gychwyn boreau ein gwrandawyr ar draws y wlad sy’n amlwg wedi ei groesawu’n gynnes bob tro mae o wedi cyflwyno’r slot.”

‘Deffro gwrandawyr o Gaerdydd’

“Rwy wrth fy modd y bydd gwrandawyr Radio 2 yn dechrau eu diwrnodau yng nghwmni Owain – yn fyw bob dydd Llun i Gwener o gartref BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog,” meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Gan ei fod wedi dechrau ei yrfa cyflwyno yma yng Nghymru, mae’n wych y bydd e’n deffro gwrandawyr ar draws y Deyrnas Unedig o Gaerdydd.

“Croeso Owain!”