Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru yn honni nad yw’n credu bod Liz Truss wedi ffonio Mark Drakeford unwaith ers dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Hydref 6), dywedodd Jane Hutt nad yw’n credu bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi siarad â Phrif Weinidog Cymru ers iddi ddod i rym ddechrau mis Medi.

Fe wnaeth ei rhagflaenwyr, Theresa May a Boris Johnson, ill dau ffonio Mark Drakeford ar y diwrnod y cawson nhw eu hethol, meddai Jane Hutt, gan ychwanegu bod rhaid i Liz Truss siarad ag e er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

Yn y gynhadledd, oedd yn trafod y gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru’n ei rhoi gyda’r argyfwng costau byw, fe wnaeth Jane Hutt gyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “gefnogi’r rhai cyfoethog ar draul pawb arall”.

“Rydyn ni’n dewis cefnogi pobol drwy’r argyfwng hwn drwy ddarparu help wedi’i dargedu i’r rhai sydd ei angen fwyaf drwy gefnogi pawb drwy raglenni sy’n rhoi arian yn ôl yn eu pocedi,” meddai.

“Mae hyn yn gwbl groes i’r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n blaenoriaethu elwon cwmnïau ynni a thoriadau treth anferthol i’r cyfoethog.

“Yn ogystal, maen nhw wedi codi’r posibilrwydd o wneud toriadau mawr i wariant cyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau lles.

“Ddoe, fe wnaeth y Canghellor newid ei feddwl am ei benderfyniad i ddiddymu’r gyfradd 45c incwm treth ond roedd ei gynnwys yn y gyllideb fechan, pan mae’r argyfwng costau byw ar ei waethaf, yn dangos yn union beth yw blaenoriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig – cefnogi’r rhai cyfoethog ar draul pawb arall.

“Efallai bod tro pedol, ond mae’r difrod wedi’i wneud.

“Mae’r gyllideb fechan wedi creu cythrwfl yn y farchnad ariannol, gan ostwng y bunt a gwneud morgeisi’n ddrytach.

“Mae disgwyl i gyfraddau llog a chwyddiant godi ymhellach, ac mae hi’n debyg y bydd y difrod economaidd sydd wedi cael ei greu yn dadwneud unrhyw gynnydd wnaethon ni drwy’r mesurau ynni newydd ddaeth i rym ddydd Sul.

“Dw i wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig dro ar ôl tro i sefyll fyny, a darparu’r gefnogaeth rydyn ni ei hangen wrth i’r gaeaf ddechrau ac i flaenoriaethau cartrefi ar incymau isel.

“Yn anffodus, dydyn nhw heb ateb y galwadau hynny. Dyna pam ein bod ni wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar ddatblygu pecyn cefnogaeth ein hunain.”

‘Blaenoriaethu’r rhai sydd angen cefnogaeth’

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, bydd Llywodraeth Cymru’n gwario £1.6bn ar gymorth wedi’i dargedu a rhaglenni cynhwysol er mwyn trio rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobol ac maen nhw wedi sefydlu pwyllgor costau byw newydd fydd yn cyfarfod yn wythnosol.

Fodd bynnag, mae angen gweithredu pellach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl Jane Hutt.

“Bydd yr arian yn helpu i drin rhai o symptomau’r argyfwng costau byw, ond fyddan nhw ddim, a fedran nhw ddim, trio datrys yr achosion gwaelodol,” meddai.

“I wneud hynny, rydyn ni angen gweithredu pendant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Ond fel dywedais i, mae hyn yn ymwneud â phenderfyniadau.

“Byddan ni’n parhau i wneud popeth fedrwn ni gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd gennym ni, blaenoriaethu’r gefnogaeth ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf tra’n parhau i helpu pawb drwy’r rhaglenni cynhwysol sydd gennym fel prydau ysgol a phresgripsiynau am ddim sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pawb.

“Rydyn ni wedi gwneud ein dewis, dw i’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i feddwl eto am flaenoriaethu’r rhai sydd mewn mwyaf o angen yn hytrach na’r rhai cyfoethocaf.”

Dywed Jane Hutt ei bod hi’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau cynnydd sylweddol mewn ad-daliadau megis y Gostyngiad Cartrefi Cynnes a rhaglenni tanwydd, a darparu cyllid ychwanegol i gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant er mwyn cefnogi aelwydydd incwm isel.

‘Rhaid i Liz Truss siarad â’r Prif Weinidog’

Gofynnodd LBC iddi a yw hi’n bryderus am oblygiadau Prif Weinidog arall yn dod i rym sydd, “mae’n ymddangos”, yn anwybyddu Cymru?

“Dw i’n eithriadol o bryderus, dw i ddim yn credu bod yna alwad wedi bod i Brif Weinidog Cymru gan y Prif Weinidog yma eto,” meddai Jane Hutt.

“Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ddweud yn y siambr yr wythnos ddiwethaf ei fod wedi cael galwadau gan y ddau Brif Weinidog diwethaf ar y diwrnod y cawson nhw eu hethol – Boris Johnson a Theresa May.

“Efallai y caiff alwad gan y Prif Weinidog nesaf a allai gymryd lle’r Prif Weinidog yma.

“Mae Liz Truss wedi gwrthod diystyru toriadau mewn termau real i fudd-daliadau lles heddiw. Rydyn ni yn y sefyllfa waethaf o ran budd-daliadau lles ers 50 mlynedd, ac mae’r rhai tlotaf yn mynd i golli allan.

“Maen nhw’n gwneud tro pedol bob diwrnod, gawn ni dro pedol ar hyn?

“Mae’n rhaid i ni gael cadarnhad nad yw toriadau i fudd-daliadau’n cael eu diystyru gan y Prif Weinidog. Dyna’r peth pwysicaf y mae’r bobol fwyaf agored i niwed ei eisiau yng Nghymru.

“Mae yna bryder gwirioneddol, mae’n rhaid i Liz Truss siarad gyda’n Prif Weinidog.

“Dw i hefyd yn bendant yn gofyn i gwrdd â’r gweinidog sydd â’r un cyfrifoldebau â fi.”