Mae arweinydd Cyngor Wrecsam yn dweud nad yw e eisiau gweld y dreth dwristiaeth yn cael ei chyflwyno yn y ddinas.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar gynigion i roi’r grym i awdurdodau lleol godi treth ar ymwelwyr.

Byddai’r ardoll yn ffi bach i’w dalu gan bobol sy’n aros dros nos mewn llety yng Nghymru.

Pe bai’r cynnig yn boblogaidd, byddai gan bob awdurdod lleol yng Nghymru y grym i benderfynu a ydyn nhw eisiau cyflwyno’r ardoll, a byddai’r arian sy’n cael ei godi’n cael ei ailfuddsoddi mewn ardaloedd lleol er mwyn cefnogi twristiaeth leol.

Gallai buddsoddiad amrywio o gadw’r traethau a’r palmentydd yn lân i gynnal a chadw parciau, toiledau a llwybrau lleol.

Hyd yn oed pe bai’n cael ei gyflwyno, fyddai e ddim yn gallu cael ei gyflwyno am rai blynyddoedd.

Gwrthwynebiad chwyrn

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg Cyngor Wrecsam, dywedodd yr arweinydd, y Cynghorydd Mark Pritchard (Annibynnol) ei fod e’n gwrthwynebu’r syniad yn llwyr, ac na fyddai eisiau gweld ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno yn y ddinas.

“Dw i ddim yn ei gefnogi fo,” meddai.

“Mae fy safbwynt i’n glir iawn.

“Mae o allan rŵan ar gyfer ymgynghoriad.

“Dydy busnesau ledled Cymru ddim yn ei gefnogi fo, a dw i’n meddwl y byddai’n ffôl, yn enwedig yn yr amserau andros o anodd yma.

“Dw i’n meddwl beth ddylai Llywodraeth Cymru ei wneud ydi edrych ar hyn a’i ddefnyddio fo’r ffordd arall – ein bod ni’n gwlad nad yw’n codi treth dwristiaeth, a hyrwyddo hynny.

“Dw i’n meddwl y basech chi’n cael mwy o fudd ohono fo.”

‘Ffôl’

Wrth egluro’i resymau dros fod yn erbyn y syniad, dywed y Cynghorydd Mark Pritchard fod awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn gwneud yn dda yn sgil twristiaeth ac y byddai’n “ffôl” cyflwyno costau ychwanegol i ymwelwyr.

“Dw i’n meddwl mai’r hyn sy’n rhaid i chi ei ddeall yma o ran twristiaeth ydi ei fod o’n dod â miliynau o bunnoedd i mewn i’r wlad hon, a dw i’n meddwl bod llawer o awdurdodau’n gwneud yn eithaf da allan ohono fo o ran codi mewn meysydd parcio, eu cynnydd mewn busnes, sŵn traed a phob dim arall.

“Yn fy marn i, mae o’n ffôl.

“Fel arweinydd y Cyngor, fyddwn i ddim yn cefnogi dod ag un i mewn yn Wrecsam.

“Bydd llawer o drafod ar y pwnc hwn a baswn i’n gobeithio bod Llywodraeth Cymru’n meddwl yn galed am hyn cyn iddyn nhw symud yn eu blaenau.

“Dw i’n meddwl y byddai o’n niweidiol i Gymru fel gwlad – dyna fy marn i.”

Mae rhagor o wybodaeth am yr ardoll twristiaeth arfaethedig ar wefan Llywodraeth Cymru, lle mae modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hefyd.