Fe wnaeth claf a sglerosis ymledol (multiple sclerosis) ddioddef “anghyfiawnder sylweddol” oherwydd methiannau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl yr adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cymerodd 16 mis i wneud diagnosis y claf.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd yn gyfrifol am fonitro a goruchwylio’r gofal, er iddo gael ei atgyfeirio i Ymddiriedolaeth Ysbyty’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.

Roedd Mr A yn bryderus bod niwrolegydd ymgynghorol oedd wedi ei archwilio wedi methu â gwneud diagnosis o’r sglerosis ymledol rhwng Mai 2018 a Medi 2019.

Ynghyd â hynny, roedd yn bryderus nad oedd ymatebion yr Ymddiriedolaeth a’r Bwrdd Iechyd i’w gŵyn yn gadarn nac yn gywir.

‘Achosi pryder ac ansicrwydd’

Mae’r Ombwdsmon Michelle Morris wedi cadarnhau’r gŵyn, a daeth i’r canlyniad bod yr amser a gymerodd i wneud y diagnosis yn “is na’r safon briodol o ofal”.

“Rwy’n fodlon na fyddai diagnosis cynharach wedi newid canlyniad clefyd Mr A yn sylweddol,” meddai.

“Fodd bynnag, yn fy marn i, mae’r diagnosis gohiriedig a phriodoliad ei symptomau i ffactorau seicolegol neu seiciatrig wedi achosi pryder ac ansicrwydd diangen i Mr A.

“Roedd hyn yn anghyfiawnder sylweddol iddo.”

Dywed hefyd ei bod yn bryderus na wnaeth y bwrdd iechyd sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cydnabod nac yn cyfaddef yn llawn raddau’r methiannau.

“Mae diffyg ymateb agored ac amserol i gŵyn Mr A nid yn unig yn gamweinyddiaeth ond yn golygu hefyd fod rhan bwysig o rôl fonitro’r Bwrdd Iechyd, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael trosolwg a chraffu trylwyr ar y corff a gomisiynwyd, wedi’i cholli,” meddai.

Dywed y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymddiheuro wrth Mr A am y methiannau, yn ogystal â thalu iawndal o £6,835.38.

Ynghyd â hynny, dylai’r bwrdd iechyd ofyn i’r Ymddiriedolaeth sicrhau bod eu tîm niwrolegol yn trafod yr achos mewn fforwm priodol a dylai’r bwrdd adolygu ei ymateb i’r gŵyn, meddai.