Mae pob Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn galw ar bobol i gymryd camau syml i’w diogelu eu hunain rhag tanau damweiniol a gwenwyno carbon monocsid wrth iddyn nhw geisio cadw’n glyd ac arbed ynni’r gaeaf hwn.
Daw’r alwad yn dilyn pryderon gan y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol (CPTC) y gallai’r argyfwng costau byw olygu bod pobol yn troi at ffyrdd amgen o wresogi a goleuo’u cartrefi.
Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub cyfan yng Nghymru yn cefnogi ymgyrch Cadw’n Ddiogel Rhag Tân y CPTC i ddarparu cyngor i helpu i leihau peryglon tân yn y cartref.
Mae’r ymgyrch yn cynnwys annog pobol i gysylltu â’u Gwasanaeth Tân ac Achub lleol i wneud cais am wiriad Iechyd a Diogelwch, ac Archwiliad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref yn rhad ac am ddim.
Caiff y gwiriadau hyn eu blaenoriaethu ar gyfer y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf o dân yn y cartref.
Argymhellion
Ymhlith y camau mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn awgrymu y dylai pobol eu cymryd mae:
- Gwirio fod unrhyw beiriannau gwresogi mewn cyflwr gweithiol da a heb fod yn destun adalwad cynnyrch wrth wirio gwefan Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau am unrhyw rybuddion neu adalwadau;
- Sicrhau bod eitemau fflamadwy fel celfi a dillad sy’n sychu yn cael eu gosod yn bell o wresogyddion a thanau;
- Sicrhau eich bod yn defnyddio’r tanwydd cywir ar gyfer ffyrnau llosgi coed a thanau agored i leihau’r risg o fygdarthau gwenwynol, tanau simnai a gwenwyno carbon monocsid;
- Os oes gennych dân agored, sicrhewch fod gennych gard dân o’i gwmpas i helpu atal unrhyw ddeunydd rhag cynnau tân yn eich cartref a chadw plant ac anifeiliaid anwes rhagddo;
- Ceisio osgoi prynu nwyddau trydanol ffug neu ddynwaredol a all achosi tanau trydanol;
- Os nad yw’n ymddangos fod eich larwm mwg yn gweithio ac rydych chi wedi gwirio’r batris, trefnwch iddynt gael eu hamnewid neu eu trwsio.
‘Gwahaniaeth rhwng byw a marw’
“Mae’n hanfodol bod pobol yn sicrhau fod ganddynt larymau tân gweithredol – o leiaf un ar bob lefel o’r tŷ,” meddai Iwan Cray, Cadeirydd Grŵp Lleihau Risg Cymunedol Tân ac Achub Cymru Gyfan.
“Dro ar ôl tro, rydym yn gweld sut y gall larwm tân fod y gwahaniaeth rhwng byw a marw pan fydd tân yn digwydd.
“Os ydych chi’n defnyddio peiriant gwresogi nad yw’n defnyddio trydan, rydym yn cymeradwyo gosod larwm carbon monocsid.
“Nwy di-liw a diarogl yw Carbon Monocsid na ellir ei synhwyro wrth weld neu arogli, ond mae canfyddiad cynnar y nwy marwol hwn drwy law larwm CM gweithiol yn arbed bywydau.
“Dylid gwirio pob larwm yn rheolaidd i weld os ydyn nhw’n gweithio wrth wasgu’r botwm profi o leiaf unwaith bob mis.
“Mae’n bwysig, lle taw dim ond un ystafell yn unig fydd pobol yn gallu gwresogi, a’u bod nhw’n defnyddio honno i fyw ac i gysgu, eu bod yn gallu clywed larymau, fel y gallent gael eu rhybuddio ynglŷn â thân neu lefelau peryglus o garbon monocsid wrth iddynt gysgu.”