Mae achos llys gweinidog busnes a chyn-lefarydd senedd Catalwnia yn dechrau yn Uchel Lys Catalwnia heddiw (dydd Mercher, Hydref 5).
Mae Roger Torrent, ynghyd â sawl aelod arall o’r senedd ar y pryd, wedi’u cyhuddo o anufudd-dod am eu rhan mewn pleidleisiau yn y senedd yn erbyn brenhiniaeth Sbaen.
Fydd e ddim yn cael ei garcharu am y drosedd, ond fe allai gael ei wahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus.
Mae Josep Costa, Eusebi Campdepadrós ac Adriana Delgado hefyd yn wynebu cyhuddiadau, a’r rheiny i gyd yn aelodau o’r pleidiau Esquerra Republicana a Junts per Catalunya, dwy blaid sydd yn ymgyrchu dros annibyniaeth i Gatalwnia.
Mae erlynwyr eisiau gwahardd Torrent, Costa a Campdepadrós am flwyddyn ac wyth mis, a Delgado am flwyddyn a phedwar mis.
Mae Torrent wedi’i gyhuddo o gynnull Llys Cyfansoddiadol Sbaen ac awdurdodi pleidleisiau anghyfreithlon.
Cafodd y cynigion eu pasio gyda gwelliannau ym mis Tachwedd 2019, a’u cefnogi gan bleidiau o blaid annibyniaeth sydd â mwyafrif yn y senedd.
Roedd un o’r cynigion yn “ategu cynifer o weithiau ag y mae ASau yn ei ddewis i wrthwynebu’r frenhiniaeth, yn amddiffyn hunanlywodraeth ac yn cadarnhau sofraniaeth pobol Catalwnia i ddewis eu dyfodol gwleidyddol”.
Roedd cynnig arall yn cyhuddo Llys Cyfansoddiadol Sbaen o “sensoriaeth” ar fater hunanlywodraeth a thrafodaethau’n beirniadu’r frenhiniaeth.
Yn dilyn yr ail drafodaeth, dywedodd plaid Ciutadans y bydden nhw’n mynd â’r achos at erlynwyr, gan gyhuddo’r pleidiau tros annibyniaeth o fod yn “bencampwyr anufudd-dod”.
Erbyn mis Tachwedd 2019, roedd y Llys Cyfansoddiadol eisoes wedi atal y cynnig yn rhannol, gan rybuddio unigolion ynghylch y ffaith fod rhannau o’r cynnig yn anghyfreithlon ac y gallen nhw wynebu cyhuddiadau.
Fe wnaeth Roger Torrent gyhuddo’r system gyfiawnder o “ofni mynd ar ôl rhyddid yn fwy na cheisio gwarantu rhyddid”.
Ymhlith y rhai eraill sydd wedi’u gwahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus yn sgil eu rhan yn yr ymgyrch tros annibyniaeth mae’r cyn-arlywydd Quim Torra a sawl aelod o’r cabinet oedd yn gyfrifol am alw’r refferendwm yn 2017.