Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys ar alwadau gan y sector nyrsio i wella tâl ac amodau gwaith, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.
Daw galwadau Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd, wedi i ystadegau a gafodd eu rhyddhau gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru roi “darlun brawychus” o’r pwysau a’r problemau sy’n wynebu’r gweithlu.
Yn ôl yr ystadegau, mae o leiaf 2,260 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig yng Nghymru, sy’n gynnydd o’r 1,719 swydd oedd yn wag y llynedd.
Mae 636 o’r swyddi gwag yng Nghymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd.
Dangosa’r ystadegau bod diffyg staff nyrsio gofal cymdeithasol hefyd, gyda 319 wedi gadael y proffesiwn yn 2021 a dim ond 204 wedi ymuno.
Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae canran y staff nyrsio sy’n teimlo’n frwdfrydig am eu swydd wedi gostwng 19%, ac mae’r rhai sy’n teimlo eu bod nhw rhy brysur i ddarparu’r lefel o ofal yr hoffen nhw ei roi wedi cynyddu gan 9%.
‘Darllen sobreiddiol’
Mae’r ystadegau yn gwneud “darllen sobreiddiol”, meddai Mabon ap Gwynfor, fu’n cyfarfod â Helen Whyley, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, yn ddiweddar.
“Nid yn unig y bu cynnydd sylweddol yn nifer y swyddi nyrsio sy’n aros i’w llenwi, mae yna hefyd ddiffyg mewn nyrsio gofal cymdeithasol tra bod y gwariant blynyddol ar staff asiantaeth wedi cynyddu 41%,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Tra bod nyrsys yn rhoi 67.780 o oriau ychwanegol yr wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae morâl gwael a phroblemau cadw yn cael effaith sylweddol ar y gwasanaeth.
“O’r 2,690 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru, mae 636 ohonynt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Bwrdd Iechyd sydd yn dal heb fynd i’r afael a methiannau difrifol yn narpariaeth gofal ac sydd yn prysur golli ffydd y cyhoedd.
“Mae gweithwyr gofal iechyd wedi gwneud aberthau enfawr trwy gydol y pandemig, gan beryglu eu hunain i amddiffyn cleifion a hyd yn oed treulio dyddiau os nad wythnosau i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd er mwyn gwneud eu gwaith.
“Mae’r codiad cyflog a gynigir gan Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn ostyngiad mewn cyflog mewn termau real, gan nad yw hyd yn oed yn cyfateb i chwyddiant. Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi nyrsys a’u galwad am gyflog teg.
“Os yw Llywodraeth Cymru am ddangos ei gwerthfawrogiad i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, rhaid iddynt warantu cyflog teg i bob gweithiwr gofal iechyd, a darparu cymorth ystyrlon i wneud hwn yn opsiwn gyrfa ddeniadol i fwy o bobl, a rhaid iddynt sefydlu trefn a strategaeth cadw gadarn.
“Mae staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar draws Dwyfor Meirionnydd yn haeddu codiad cyflog uwchlaw’r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Bydd unrhyw beth llai yn methu â rhoi’r gydnabyddiaeth y maent wedi’i hennill i rai o’n gweithwyr pwysicaf yn ystod rhai o flynyddoedd anoddaf eu bywydau proffesiynol.”