Mae codi trethi uwch ar berchnogion ail dai yn mynd tuag at helpu brodorion i brynu cartrefi ar Ynys Môn, yn ôl y Cyngor Sir.

Bydd Cynllun Prynu Cartref Ynys Môn yn darparu cymorth ychwanegol i brynwyr tro cyntaf a phobol sy’n methu fforddio prynu tŷ ar y farchnad agored ar yr ynys, gyda £325,000 o arian sydd wedi’i godi drwy’r premiwm yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r cynllun yn ystod y 12 mis nesaf.

Ar Ebrill 1 2017, cafodd pwerau eu rhoi i awdurdodau lleol i’w galluogi i godi mwy o dreth gyngor ar ail dai neu eiddo gwag hirdymor.

Dywed Cyngor Ynys Môn eu bod nhw wedi gwneud y defnydd o’r premiwm a’r cyllid maen nhw wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru ers 2017.

Maen nhw eisoes wedi cyfuno bron i £1.5m o gyllid o bremiwm y dreth gyngor a grantiau gwerth £1m gan Lywodraeth Cymru er mwyn dod ag eiddo gwag yn ôl ar y farchnad, gan helpu 128 o bobol i brynu eu cartref cyntaf.

Mae’r Cyngor nawr yn bwriadu cefnogi mwy o frodorion lleol i brynu cartref gyda’r Cynllun Prynu Cartref.

Mae’r cynllun yn golygu y bydd y Cyngor yn rhoi benthyciad ecwiti i ymgeiswyr sy’n methu cael morgais digonol i brynu ar y farchnad agored er mwyn eu galluogi nhw i brynu cartref heb orfod ariannu’r gost yn llawn.

Yna, bydd y tŷ yn dod yn eiddo ecwiti a rennir.

Bydd rhaid bod gan ymgeiswyr isafswm blaendal o 5% i fod yn rhan o’r cynllun.

Os, neu pan gaiff yr eiddo ei werthu, bydd y perchennog yn ad-dalu’r gyfran ecwiti sy’n ddyledus i’r Cyngor yn seiliedig ar werth canran ecwiti’r Cyngor ar adeg gwerthu’r eiddo.

Mae Cynllun Prynu Cartref Ynys Môn ar gael i:

  • brynwyr tro cyntaf lleol sy’n cael trafferth prynu cartref
  • pobol sydd wedi bod yn berchen ar eiddo yn y gorffennol ond sydd ddim ar hyn o bryd
  • perchnogion sydd eisoes yn rhan o gynllun rhannu ecwiti ac sydd yn chwilio am gartref mwy addas

‘Cefnogi pobol leol’

“Fel awdurdod lleol rydym yn llwyr ymwybodol o’r anawsterau y mae trigolion mewn cymunedau ar hyd a lled yr ynys yn eu hwynebu wrth geisio prynu eu cartref cyntaf,” meddai’r Cynghorydd Alun Mummery, deilydd portffolio Tai Ynys Môn.

“Cynllun Prynu Cartref Ynys Môn yw’n prosiect arloesol diweddaraf.

“Bydd yn defnyddio’r incwm a gynhyrchir drwy bremiwm y dreth gyngor i helpu mwy o bobl brynu cartref drwy ddarparu benthyciadau ecwiti.

“Bydd y cynllun newydd – a lansiwyd mewn partneriaeth â Tai Teg – yn hwb ychwanegol y mae mawr ei angen i’r ddarpariaeth tai fforddiadwy sydd ar gael i drigolion lleol.”

Yn ôl Llinos Medi, mae’r Cyngor “yn defnyddio premiwm y dreth gyngor mewn ffordd gadarnhaol i gefnogi pobol leol a chreu cyfleodd iddynt fyw mewn tai o ansawdd yn eu cymunedau”.