Mae arbenigwyr wedi mynegi pryderon am ddyfodol iTaukei, sef iaith frodorol Ffiji, er ei bod hi’n cael ei defnyddio o ddydd i ddydd o hyd.

Yn ôl adroddiadau, mae Paul Geraghty, sy’n academydd blaenllaw yn Ffiji, yn dweud bod bwlch yn datblygu rhwng y cenedlaethau ac y gallai’r iaith gael ei cholli.

Dywed fod ymwybyddiaeth pobol o dafodieithoedd a geirfaoedd amrywiol iTaukei wedi gwanhau ar hyd y blynyddoedd, a hynny i raddau helaeth o ganlyniad i hanes trefedigaethol Ffiji, ond fod y defnydd ac ymwybyddiaeth o iaith safonol yn parhau’n gymharol gryf, yn ôl y wefan newyddion RNZ.

Tan 1930, roedd holl addysg Ffiji trwy gyfrwng yr ieithoedd brodorol – naill ai iTaukei, Hindi neu Rotuman – ond fe wnaeth yr awdurdodau ddadlau nad oedd hynny’n gynaliadwy.

Bryd hynny, dechreuodd Llywodraeth Seland Newydd reoli addysg yn Ffiji a doedd dim lle i ieithoedd a thafodieithoedd brodorol, ond mae’r sefyllfa honno bellach wedi newid er bod diwylliant Seland Newydd wedi cael effaith sylweddol ar Ffiji, gyda phlant yn cael eu cosbi am gyfnod am siarad eu hiaith frodorol eu hunain.

Mae Paul Geraghty yn annog yr awdurdodau i gynnwys iaith frodorol i’r graddau mwyaf posib yn addysg plant Ffiji er mwyn newid agweddau tuag ati.

Mae’n dweud bod amlieithrwydd yn hollbwysig wrth ddysgu plant ifanc ac wrth sicrhau amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ar draws y byd, ac yn galw ar Lywodraeth Ffiji i weithredu er mwyn sicrhau bod iTaukei a Hindi ar waith yn yr ysgol ar unwaith.

Ac er ei fod e’n cydnabod fod rhai camau wedi’u cymryd eisoes, mae’n dweud bod rhaid gwneud mwy.

Wythnos Ieithoedd Ffiji

Yn y cyfamser, mae cymuned Ffijiaidd Aotearoa (Seland Newydd) wedi lansio wythnos i ddathlu ieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau’r gymuned Ffijiaidd yn y wlad.

Thema Macawa ni Vosa Vakaviti (Wythnos Ieithoedd Ffiji) eleni yw meithrin, cadw a chynnal yr iaith Ffijiaidd.

Yn rhan o’r wythnos, fe fydd sylw’n cael ei roi i effaith Covid-19 a newid hinsawdd ar y defnydd o ieithoedd brodorol a’r sylw sy’n cael ei roi iddyn nhw.