Agorodd y Cwpwrdd Cornel ar Dachwedd 12, 1972 dan berchnogaeth Mrs Bessie Burns a ddaeth yn ddiweddarach yn gynghorydd sir dros ardal y Fali ac wedi hynny dros Lanfaethlu a Llanfacrhraeth.
Roeddwn i’n ffodus iawn ar ddiwedd 1989 i ddod i gytundeb i gymryd at yr awenau wrth iddi hi ymddeol. Gan ei bod wedi gwerthu adeilad y siop yn Stryd yr Eglwys, roedd rhaid i mi ddod o hyd i gartref newydd ar gyfer y stoc.
A dyna bennod nesaf y busnes. Mae cyfnod Gŵyl Ddewi 1990 pan agorais y busnes mewn cartref newydd yn Llawr y Dref yn teimlo fel ddoe a’r atgofion yn llifo. Allwn i ddim fod wedi dymuno am gychwyn gwell. Un o’r llyfrau newydd cyntaf i fy nghyrraedd oedd Hanes Cymru gan Dr John Davies, llyfr clawr caled £30 ac roedd galw mawr amdano. Roedd Bryn Fôn newydd gael ei arestio dan amheuaeth o fod yn rhan o ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr. Roedd cefnogaeth fawr i Bryn ar y pryd a phobol yn ymgasglu y tu allan i orsaf heddlu Dolgellau lle roedd yn cael ei holi. Roedd hyn yn cydamseru ag anterth poblogrwydd Bryn fel canwr Sobin a’r Smaeliaid ac fel y cymeriad Tecs yn Cmon Midffîld. Roedd y casetiau a’r crysau T yn hedfan allan!
Am bron un flynedd ar ddeg, bu Llawr y Dref yn gartref llwyddiannus i’r siop. Mae llawer o uchafbwyntiau yn dod i’r cof. Sesiynau arwyddo eithriadol o brysur gydag actorion Minafon, Dyfan Roberts, Siw Hughes ac Elen Roger Jones. Wedyn awduron hunangofiannau Cyfres y Cewri, Eifion ‘Jonsi’ Jones, Dafydd Wigley a John Ogwen, a Bedwyr Lewis Jones yn dod i lofnodi ei lyfr am enwau Yn Ei Elfen. Roedd cwsmeriaid wrth eu boddau yn cael cyfle i siarad â’r bobol hyn o fri cenedlaethol.
Roedd y nawdegau yn gyfnod llewyrchus iawn ar gasetiau ac wedyn crynoddisgiau ar labeli Sain, Fflach ac Ankst. Soniais eisoes am boblogrwydd Bryn Fôn a magodd y ddeuawd canu gwlad o Lŷn, John ac Alun, ddilyniant mawr. Dyma hefyd gyfnod fideos i blant ac oedolion. Roedd marchnad barod iawn amdanynt, yn enwedig 10 fideo Cmôn Midffîld. Gyda thro’r mileniwm, daeth oed y fideo i ben a chyrhaeddodd y DVD.
Symudais o Lawr y Dref i gartref presennol y siop yng Nghanolfan y Ffowndri ddechrau Ionawr 2001. Roedd yn anodd rhagweld ar y pryd, ond cynyddu wnaeth y busnes ar ôl symud. Dyma gyfnod cyfrolau poblogaidd y Parchedig Emlyn Richards. Cafwyd cyfres o nosweithiau lansio eithriadol o hwyliog ym mart Morgan Evans, Gaerwen am gofnod o dros ddau ddegawd ac Emlyn yn ei elfen yn cael cyflwyno Porthmyn Môn, Potsiars Môn, Pregethwrs Môn, Ffarmwrs Môn, Bywyd Gŵr Bonheddig, O’r Lôn i Fôn, Cymeriadau Ynys Môn, Y Dyrnwr Mawr a Cofio’r Wylfa. Rwy’n ddyledus iawn i Emlyn am gael bod yn rhan o hwyl y nosweithiau lansio afieithus hyn. Cefais lawer o nosweithiau lansio hwyliog iawn eraill yn enwedig yng nghwmni awduron eraill o Fôn fel Bethan Wyn Jones a’i harbenigedd ar fyd natur, J. Richard Williams a’i gyfraniad gwerthfawr yn cofnodi elfennau o hanes Môn, er enghraifft O Fôn i Van Diemens Land, Melinau Môn, Croesi i Fôn.
Rydym erbyn hyn yn ffodus iawn o gael to cynhyrchiol o nofelwyr ar yr ynys a chafwydd nosweithiau lansio llwyddiannus yng nghwmni Dyfed Edwards, Sonia Edwards, Marlyn Samuel, a meistr y nofel dditectif, John Alwyn Griffiths. Cofiadwy iawn hefyd oedd cynnal stondin y siop mewn sawl Eisteddfod Genedlaethol, a’r orau ohonynt heb amheuaeth oedd yr Eisteddfod yn Llanbedrgoch yn 1999. Roedd y stondin ar faes y sioe ym Mona ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn yn 2004 hefyd yn eithriadol o brysur.
Bellach, daeth hi’n amser i ollwng gafael a chyflwyno perchnogion newydd y siop o Hydref 10. Pleser fydd croesawu Ioan Jones a Rhiannon Elis Williams sy’n rhedeg siop Awen Menai yn y Borth ers deng mlynedd. Maen nhw’n brofiadol iawn yn y maes eisoes ac yn edrych ymlaen at wasanaethu pobol canol a gogledd Môn. Gwn eu bod hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio â’r holl ysgolion sydd wedi prynu llyfrau ar hyd y blynyddoedd a byddant hefyd yn gallu cynnig llyfrau darllen Saesneg i adrannau Saesneg yr ysgolion uwchradd a chyfresi darllen pwrpasol i’r oedrannau cynradd.
Felly wrth i fy nghyfnod ddod i ben, hoffwn i ddiolch yn fawr i gwsmeriaid am flynyddoedd o gefnogaeth. Bu’r sgwrsio a’r cymdeithasu yn felys a chofiadwy a theimlaf yn freintiedig iawn o fod wedi gallu cynnal bywoliaeth o hyrwyddo llyfrau, cerddoriaeth, cardiau, crefftau ac anrhegion Cymraeg a Chymreig dros gyfnod o ddeuddeng mlynedd ar hugain. Bu’n gyfnod cyffrous ym mywyd ein cenedl hefyd wrth i ni weld ein democratiaeth genedlaethol yn datblygu.
Yn y cyfnod anodd hwn yn dilyn y tarfu a fu ar bopeth oherwydd Covid, mae’n dda nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi tocyn llyfr gwerth £7 i bob disgybl uwchradd yng Nghymru rhwng blynyddoedd 7 a 11. Bydd cynllun o ddosbarthu llyfrau dan nawdd Llywodraeth Cymru i’r ysgolion cynradd hefyd gyda hyn. Cofiwch felly ysgolion Môn sicrhau bod Cwpwrdd Cornel yn gallu darparu’r llyfrau ar gyfer y cynlluniau hyn.
Ni fyddaf yn ymddeol yn llwyr chwaith gan fy mod wedi bod yn gwneud gwaith cyfieithu ers 2013, a bydd hynny’n parhau o dan enw Dylan Morgan Cyf. Edrychaf ymlaen yn awr at ddod i Langefni fel cwsmer a pharhau i gynnal y cyfeillgarwch a fu’n rhan mor fawr o fy mywyd ers 1990. Ymlaen felly at y 100 a daliwch ati i ddarllen y cyfoeth o lyfrau Cymraeg sydd ar y farchnad.