“Twf twf twf”, dyna oedd y neges gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Liz Truss, yn ei haraith i gynhadledd y Ceidwadwyr heddiw (dydd Mercher, Hydref 5).

Mae hi wedi bod yn gyfnod cythryblus i’r Ceidwadwyr ers i Liz Truss gymryd yr awenau yn Rhif 10 Stryd Downing, felly roedd rhywun yn cael y teimlad fod yna gryn dipyn yn dibynnu ar ei pherfformiad yn y gynhadledd.

Ddechrau’r wythnos bu’n rhaid i’r Prif Weinidog a’i Changhellor, Kwasi Kwarteng, gyhoeddi tro pedol ar gynlluniau i dorri cyfradd uchaf y dreth o 45% i 40%.

Roedd y polisi’n rhan o ‘gyllideb fach’ Kwasi Kwarteng, cyllideb wnaeth achosi i’r bunt blymio i’w lefel isaf erioed ar un adeg.

Ar ben hynny, bu i’r International Monetary Fund (IMF) rybuddio’r Llywodraeth i “ail-werthuso” ei pholisi economaidd – embaras mawr i economi o faint Prydain.

Wnaeth y tro pedol ddim ysgogi llawer o hyder yn aelodau’r blaid gan fod y Prif Weinidog wedi gwneud sawl cyfweliad yn y 24 awr cyn y gynhadledd yn mynnu fod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r polisi.

Yn wir, ddechrau’r wythnos, dywedodd Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth Golwg mai “realistig” oedd yr awyrgylch yn y gynhadledd.

Mae’n debyg nad oedd y ffaith fod y Blaid Lafur 33 pwynt ar y blaen i’r Ceidwadwyr ym mhôl piniwn YouGov yn dda iawn i’r morâl chwaith.

‘Araith gadarn’

Fodd bynnag, er gwaethaf hyn oll, mae araith Liz Truss wedi argyhoeddi Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru.

“Roedd hi’n araith gadarn wnaeth lunio darlun o’r weledigaeth sydd gan y Prif Weinidog newydd o ddarparu twf economaidd i’r holl wlad,” meddai wrth golwg360.

“Heb y twf economaidd yna fe fydd hi’n anodd iawn talu am y gwasanaethau cyhoeddus rydyn ni gyd yn dibynnu arnyn nhw, yn ogystal â’r prosiectau isadeiledd mae pob economi yn yr 21ain ganrif eu hangen.

“Felly dw i’n croesawu’r ffocws yma ar dwf economaidd.

“Ac roedd Liz Truss hefyd yn iawn i grybwyll y pecyn enfawr o gefnogaeth mae’r Llywodraeth wedi’i ddarparu i gefnogi teuluoedd a busnesau yn ystod y gaeaf hwn”

Heriau 

Rhaid cyfaddef fod negeseuon Liz Truss ynglŷn â “thwf” a “rhyddhau potensial y wlad” yr un math o beth rydyn ni wedi’i glywed gan Brif Weinidogion Ceidwadol dros y 12 mlynedd diwethaf.

Beth sy’n gwneud Liz Truss a’i Llywodraeth yn wahanol, felly?

“Y peth ydi, rydyn ni wedi gweld y twf yna gan Lywodraethau Ceidwadol dros y 12 mlynedd diwethaf, gyda chyfraddau isel o ddiweithdra a chyfleoedd i fusnesau ffynnu,” meddai Andrew RT Davies.

“Ond rydyn ni wedi wynebu heriau unigryw yn ystod y tair blynedd diwethaf sef pandemig Covid-19, does yr un Llywodraeth wedi gorfod delio â nhw ers dros gan mlynedd, yn ogystal â rhyfel yn Wcráin.

“Pe baech chi wedi dweud wrth rywun 18 mis neu ddwy flynedd yn ôl y byddai yna ryfel yng nghanol Ewrop, fydden nhw ddim wedi eich coelio chi.

“Felly mae’n rhaid i’r ffocws nawr fod ar ailadeiladu yn dilyn Covid-19 a ffyniant yr economi fel bod pawb yn cael budd ohono yn ogystal â pharhau i ddarparu cefnogaeth i bobol Wcráin i drechu lluoedd Rwsia.

“Rydyn ni’n gwybod os ydi lluoedd Rwsia yn cael eu trechu, y bydd lot o’r heriau megis ar argyfwng costau byw yn diflannu achos bydd y marchnadoedd ynni a bwyd yn sefydlogi.”

‘Bendithion Brexit’

Fodd bynnag, mae Andrew RT Davies yn gwadu bod Brexit hefyd wedi cael effaith negyddol ar yr economi.

“Fe fyddwn i’n anghytuno gyda’r datganiad hwnnw,” meddai.

“Mae Brexit yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ni, ac fe welsom ni hynny gyda’r ffordd y llwyddon ni i ddarparu brechlynnau yn gyflymach nag unrhyw wlad yn Ewrop yn ystod y pandemig.

“Fe wnaethon ni hefyd allu ailagor ein heconomi cyn i economïau eraill allu gwneud hynny, gan olygu bod pobol yn gallu dychwelyd i’w swyddi a chefnogi eu teuluoedd.

“Felly dw i’n credu bod yna nifer fawr o fendithion i Brexit.

“Dw i’n derbyn y bydd yna wastad garfan o bobol yn dadlau nad oedd Brexit yn beth da, ond fe gawson ni bleidlais ddemocrataidd yn 2016 ac fe ddywedodd y bobol ein bod ni eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Rydyn ni eisiau bod ar delerau da gyda’r Undeb Ewropeaidd a bod yn gymdogion da iddyn nhw, ond rydyn ni bellach yn wladwriaeth sofran y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”

Tro pedol

Roedd rhai wedi awgrymu bod tro pedol Liz Truss ar dorri cyfradd uchaf y dreth ddechrau’r wythnos yn effeithio hygrededd ei llywodraeth.

Fodd bynnag, ei brolio hi am “wrando” ddylai pobol fod yn ei wneud, yn ôl Andrew RT Davies.

“Mae hi’n ffaith fod gwleidyddion yn aml yn cael eu cyhuddo o beidio gwrando,” meddai.

“Ond ar yr achlysur yma mae’r Prif Weinidog a’i chydweithwyr wedi gwrando.

“Doedd yna ddim digon o gefnogaeth i’r elfen fechan yma o’r polisi ehangach, ac o ganlyniad mae wedi cael ei dynnu o gynigion y gyllideb.

“Fodd bynnag, fe fydd y rhan fwyaf o gynigion y gyllideb yn cael eu cyflawni ac fe fyddan nhw o fudd i bobol, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig.”