Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn atgoffa pobol o’u cyfle i gysylltu â nhw, fel rhan o ymgyrch sy’n ceisio gwella’r ffordd mae pobol yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill yng Nghymru i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal ochr yn ochr â’r Saesneg, ond dydy hyn ddim bob amser yn wir ac o ganlyniad mae rhai yn cael eu gwahaniaethu yn annheg.
Yn ôl Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, gall hyn achosi gofid i unigolion a theuluoedd,
“O dan ein cylch gorchwyl mae gennym ddyletswydd i reoleiddio cyrff sector cyhoeddus a rhai asiantaethau penodol a sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai.
“Mae hyn yn hynod o bwysig mewn meysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol gan fod y sefyllfaoedd eisoes yn anodd iawn i deuluoedd.
“Os na allant drafod gyda’r cyrff perthnasol yn eu dewis iaith, gall sefyllfa sydd eisoes yn heriol, waethygu ymhellach.
“Ond rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod yna faterion ehangach na’r rhai sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus a hoffem glywed am rheiny hefyd.
“Mae’n bosib y gwneir penderfyniadau polisi ar lefel leol heb unrhyw ystyriaeth i’r Gymraeg neu efallai fod na faterion yn codi yn y gweithle.
“Trwy gydweithio gallwn wella gwasanaethau i bawb.”
Ymatebion hyd yn hyn
Mae amrywiaeth o faterion eisoes wedi’u codi ac maen nhw’n cynnwys enwi strydoedd yn briodol, cynnig cyrsiau diogelwch y cyhoedd a’r angen i sicrhau bod hysbysiadau neges destun dwyieithog yn cael eu defnyddio gan gyrff perthnasol.
Fel yr eglura Gwenith Price, mae’r rhan fwyaf o achosion yn cael eu datrys gyda chanlyniadau boddhaol i’r sefydliad a’r unigolyn,
“Mae’r broses o gysylltu â ni yn hawdd iawn – gall fod mewn unrhyw fodd – dros y ffôn, e-bost, hyd yn oed drwy’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai.
“Yna byddwn yn rhoi’r camau perthnasol ar waith i nodi’r problemau a’r ffordd orau o’u datrys i bawb.”
I ddysgu mwy am y broses neu i gyflwyno cwyn, mae modd mynd i www.comisiynyddygymraeg.cymru