Mae ymyrraeth Llywodraeth Cymru mewn nifer o fyrddau iechyd wedi cael ei chynyddu gan Ysgrifennydd Iechyd Cymru, tra bod eu hymyrraeth mewn un arall wedi cael ei hisgyfeirio.

Daw penderfyniad Eluned Morgan yn dilyn cyfarfod â Phrif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, oedd wedi argymell uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o’r lefel trefniadau arferol at y lefel monitro uwch, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at y lefel ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid ond y dylai barhau ar y lefel monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad.

Yn y cyfamser, daeth argymhelliad i isgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe at y lefel trefniadau arferol ar gyfer cynllunio a chyllid, ond y dylai barhau ar y lefel monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad.

Rhesymau

Yn ôl Eluned Morgan, doedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddim wedi gallu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd cytbwys a chymeradwy.

Mae’n dweud bod y bwrdd iechyd yn “ymwybodol o’r gofynion” ac yn “gweithio i fynd i’r afael â’r sefyllfa”, ac y bydd y statws newydd yn cael ei adolygu yn y cyfarfod nesaf.

O ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, doedden nhw ddim wedi gallu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig cytbwys a chymeradwy, na chwaith gynllun blynyddol terfynol, tra bod “diffyg ariannol cynyddol yn cael ei adrodd”. O ran ansawdd a pherfformiad, mae pryderon ynghylch gofal brys ac argyfwng, gan gynnwys trosglwyddo cleifion o ambiwlans, canser a pherfformiad yn erbyn rhan 1a o’r mesur gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.

Tra bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael eu hisgyfeirio ar gyfer cyllid a chynllunio yn sgil eu Cynllun Tymor Canolig Integredig cymeradwy, mae pryderon o hyd “ynghylch cyflymder ailddechrau gofal a gynlluniwyd, canser ac amrywiadau dyddiol mewn gofal brys ac argyfwng” yn golygu eu bod nhw am aros ar y lefel monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad.

Mae disgwyl i statws byrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr gael eu hystyried yn ddiweddarach y mis yma.

‘Pryderus’

“Mae’n bryderus gweld bod angen goruchwyliaeth ac ymyrraeth gynyddol ar ddau fwrdd iechyd arall – ond problem arall eto fyth yng ngwasanaeth iechyd Llafur yw hon, ac ni ddylai fod yn syndod,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Yng Nghymru, mae dros 60,000 o bobol yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – pan fo’r fath aros bron â chael ei ddileu yn Lloegr a’r Alban – ac mae gennym ni amserau aros cynyddol waeth o ran Damweiniau ac Achosion Brys na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

“O ystyried faint o’r Gwasanaeth Iechyd Gwlad nad yw bellach o dan drefniadau arferol, mae’n gwneud i chi feddwl a fydd yr ymyrraeth yma mewn gwirionedd yn mynd i’r afael â’r aros difrifol yma – mae angen mwy o hyder arnom yn y system nad oes gan gleifion na staff ar hyn o bryd.

“Mae angen i Lafur fynd i’r afael â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a rhoi’r gorau i dorri’r holl recordiau anghywir.”