Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi beirniadu Mark Drakeford ar ôl iddo awgrymu bod “y byd wedi symud ymlaen” o’r pandemig yn dilyn galwadau o’r newydd am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud sawl gwaith na fydd yna ymchwiliad penodol i Gymru, gan fynnu y bydd yr elfen Gymreig yn cael ei chynrychioli’n ddigonol yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig.
Fe ddechreuodd gwrandawiadau cychwynnol yr ymchwiliad hwnnw yn Llundain ddoe (dydd Mawrth, Hydref 4).
Mae’r ymchwiliad – dan arweiniad y cyn-farnwr, y Farwnes Heather Hallett – yn edrych ar y paratoadau a’r ymateb i’r pandemig ledled y Deyrnas Unedig.
Mae grŵp ymgyrchu Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn cael eu cydnabod yn gyfranwyr craidd yn yr ymchwiliad.
Fodd bynnag, mewn dadl yn y Senedd ddoe, lle bu’r gwrthbleidiau yn galw am ymchwiliad penodol i Gymru ar y mater, dywedodd y Prif Weinidog na fydd “ymchwiliad o’r math yna, yma yng Nghymru”, gan ychwanegu fod “y byd wedi symud ymlaen”.
Aeth yn ei flaen i ddweud bod y Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru “yn symud ymlaen o barhau i ofyn am rywbeth sydd ddim am ddigwydd”.
Ond nododd yr ymgyrchwyr fod y Prif Weinidog wedi “dweud celwydd”, a’u bod yn dal eisiau gweld ymchwiliad penodol i Gymru.
‘Sylwad oeraidd’
“Roedd o’n sylwad oeraidd dros ben gan y Prif Weinidog,” meddai Andrew RT Davies wrth golwg360.
“Gan mai fe yw’r Prif Weinidog oedd yn gyfrifol am nifer o’r penderfyniadau gafodd eu gwneud, mae’n debyg nad yw’n awyddus i gael ei graffu.
“Ond er mwyn i’r bobol hynny wnaeth golli anwyliaid mewn amgylchiadau anodd yn ystod y pandemig allu symud ymlaen, mae’n rhaid iddyn nhw gael atebion.
“Dw i’n chwerw iawn fod y Prif Weinidog wedi defnyddio’r iaith yna yn hytrach na chymryd y cyfle i gyhoeddi ymchwiliad sy’n benodol i Gymru, rhywbeth dw i’n meddwl sy’n fater hynod o bwysig.
“Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio ar sawl achlysur fod yna gamau penodol wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, gan ddadlau eu bod nhw er budd pobol Cymru.
“Dw i’n methu deall, felly, sut nad yw’r Prif Weinidog yn gweld bendithion cynnal ymchwiliad penodol i Gymru, gan edrych ar y penderfyniadau hynny gafodd eu gwneud yng Nghymru, yn ogystal ag ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.
“Mae’r SNP yn yr Alban yn cynnal ymchwiliad annibynnol i’r Alban, gan weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar yr ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.
“Ond yn anffodus, fe benderfynodd y Prif Weinidog ddweud wrth bobol am ‘symud ymlaen’.
“Mae dweud hynny wrth bobol sy’n dal i alaru eu hanwyliaid yn oeraidd a didrugaredd.”
‘Dysgu gwersi’
Mae Plaid Cymru hefyd wedi barnu’r Prif Weinidog am y ffordd y siaradodd am y grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru.
Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn gofyn iddo dynnu ei sylwadau ynglŷn â’r ymgyrchwyr yn ôl.
“Dydyn nhw ddim wedi ‘symud ymlaen’ ac, fel fi, maen nhw’n parhau i fod yn argyhoeddedig y dylid craffu ar y penderfyniadau Covid-19 a wnaed yng Nghymru,” meddai.
“Tra bod rhai penderfyniadau wedi eu gwneud ar lefel y Deyrnas Unedig, mae llawer o’r ymateb i’r pandemig yma yng Nghymru wedi bod yn nwylo Llywodraeth Cymru, a’r unig ffordd i ddysgu gwersi o’r pandemig o ddifri fyddai cael ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru eu hunain.
“Fel arwydd o barch i’r ymgyrchwyr, dylai’r Prif Weinidog ailystyried y dewis o eiriau a ddefnyddiodd ddoe.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Prif Weinidog.