Mae angen strategaeth wrthdlodi ar Gymru “nawr fwy nag erioed”, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd Cymru.
Wrth dynnu sylw at y mater yn y Senedd ddydd Mercher (Hydref 5), dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, fod pum mlynedd wedi pasio ers i Lywodraeth Cymru ddileu’r cynllun gwrthdlodi Cymunedau’n Gyntaf.
Er bod lefelau tlodi yn gwaethygu a’r argyfwng costau byw yn dechrau dangos ei ôl, dydy Llywodraeth Cymru heb ddatblygu strategaeth wrthdlodi.
“Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers i benderfyniad gael ei wneud i gau Cymunedau’n Gyntaf, rhaglen wrthdlodi’r llywodraeth,” meddai Peredur Owen Griffiths, wrth holi Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru yn y Senedd.
“Yn dilyn y penderfyniad hwn, lluniodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau adroddiad oedd yn argymell cyhoeddi strategaeth taclo tlodi clir sy’n dwyn ynghyd y gwaith niferus o ran lleihau tlodi er mwyn helpu i roi cyfeiriad clir ac i helpu’r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth.
“Roedd hefyd yn argymell bod dangosyddion perfformiad yn cael eu gwreiddio o fewn y strategaeth.
“Ni yw unig genedl y Deyrnas Unedig lle gwelwyd bod tlodi plant yn cynyddu.
“Diolch i’r Torïaid yn San Steffan, mae tlodi yn mynd yn llawer, llawer gwaeth.
“Pam ydyn ni’n dal i ddisgwyl am strategaeth wrthdlodi yng Nghymru pan fo’i angen fwy nag erioed?”
Ymateb “i’r ymosodiad ar bobol dlotaf Cymru”
Wrth ymateb, dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, fod yr adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymru yn un “pwysig” gydag “argymhellion y gwnaethon ni gytuno arnyn nhw”.
“A dw i’n gobeithio eich bod chi’n gallu gweld yr adroddiad [diweddar] gafodd ei gynhyrchu, a’i gomisiynu gennym ni – mae’n adolygiad Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – er mwyn deall y ffyrdd gorau sydd gennym ni i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, gan fod llawer o’r polisïau treth a budd-daliadau, sy’n cael effaith fawr ar dlodi, yn allweddol,” meddai.
“Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf.
“Dw i’n meddwl mai beth sy’n ddiddorol am yr adroddiad yw ei fod yn cyfeirio at bedwar maes allweddol rydyn ni’n canolbwyntio arnyn nhw ac roedd yn ystyried ymateb Cymru gyfan i fynd i’r afael â thlodi.
“Y peth cyntaf yw cwtogi costau a chynyddu incwm.
“Dw i’n credu bod y pwyslais ar hyn o bryd ar daliadau costau byw a beth rydyn ni’n mynd i’w wneud am yr ymosodiad, fel rydych chi’n ei alw, ar bobol dlotaf Cymru o ganlyniad i gyllideb fechan ddiweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”