Bu llai o gynnydd yn nifer y troseddau casineb ar ôl y bleidlais yn y rhannau hynny o’r Deyrnas Unedig oedd yn erbyn Brexit o’i gymharu â’r ardaloedd bleidleisiodd dros adael, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r papur, gafodd ei gyhoeddi yn The British Journal of Criminology, yn rhoi’r gymhariaeth gyntaf rhwng Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran y troseddau casineb ar sail hil a chrefydd sy’n gysylltiedig â Brexit.

Cyfunodd yr ymchwilwyr ystod o ddata gan ffynonellau gwahanol, gan gynnwys ystadegau gafodd eu cofnodi gan yr heddlu, Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn ymchwilio i’r ffactorau posibl arweiniodd at gynnydd mewn troseddau casineb yn dilyn y refferendwm hanesyddol yn 2016.

Fe wnaethon nhw ganfod bod yr ardaloedd hynny lle roedd y cyfraddau pleidleisio dros aros yn uwch yn tueddu i ddangos llai o gynnydd yn nifer y troseddau casineb yn ystod y mis ar ôl y bleidlais ar Brexit.

Er enghraifft, gwelodd Surrey – oedd â chyfran pleidlais aros o 52% – 12% yn llai o gynnydd mewn troseddau casineb o’i gymharu ag Essex, oedd â chyfran pleidlais aros o 38%.

Canfyddiadau

Gan ystyried 31 o ddigwyddiadau ‘sbardun’ eraill rhwng mis Hydref 2016 a mis Rhagfyr 2017, gan gynnwys yr ymosodiadau brawychol yn San Steffan a London Bridge, mae’r canfyddiadau’n dangos bod y bleidlais ar Brexit wedi arwain at yr ail gynnydd uchaf yn nifer y troseddau casineb.

Yn ôl y papur ymchwil hwn, ym mis Gorffennaf 2016 – y mis yn dilyn y bleidlais – roedd 1,100 o droseddau casineb ychwanegol yng Nghymru a Lloegr – naill ai wyneb yn wyneb neu ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n gynnydd o 29%.

Maen nhw hefyd yn amcangyfrif bod y cynnydd mewn troseddau hil a chrefydd yn dilyn pleidlais Brexit yn llai na’r hyn a gafwyd yn dilyn ymosodiad terfysgol diweddarach Arena Manceinion, ond ychydig yn fwy na’r hyn a gafwyd yn dilyn yr ymosodiad ar Bont Westminster yn 2017.

Yr unig ddigwyddiad yn y cyfnod a arweiniodd at fwy o droseddau casineb oedd yr ymosodiad ar Arena Manceinion.

Mwy llafar a hyderus

“Hwyrach bod canlyniad y bleidlais yn golygu bod rhai pobol â safbwyntiau rhagfarnllyd teimlo bod eu barn wedi’i chyfiawnhau a bod hyn yn arwain at y ffaith eu bod yn fwy llafar a hyderus o ran cyflawni troseddau hil a chasineb crefyddol – naill ai ar y strydoedd neu ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai’r Athro Matthew Williams, cyfarwyddwr y Labordy Gwrth-Gasineb yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

“Mae ein model ystadegol hefyd yn dangos nad oedd y cynnydd yn nifer y troseddau casineb wedi digwydd oherwydd cynnydd yn nifer y dioddefwyr a thystion a oedd wedi rhoi gwybod am y rhain neu gynnydd yn nifer y apeliadau am wybodaeth gan yr heddlu – dau reswm a ddefnyddiwyd cyn hyn i egluro’r cynnydd – ond yn hytrach oherwydd nifer y troseddau a gafodd eu cyflawni a’u cofnodi go iawn gan yr heddlu.”

Parhau i amau dibyniaeth y Llywodraeth ar ymyriadau traddodiadol

“Ymddengys nad oes arafu yn y cynnydd yn nifer y troseddau casineb y bydd yr heddlu yn eu cofnodi yn ogystal ag yn nifer y digwyddiadau sbardun rheolaidd yr ymddengys eu bod yn gysylltiedig yn gadarnhaol, yn gryf ac mewn modd arsylwadwy â chaledu mewn agweddau rhagfarnllyd sydd yn eu tro’n mynegi gelyniaeth sy’n seiliedig ar hunaniaeth,” meddai wedyn.

“Erys cwestiynau sylweddol o ran llywodraethu troseddau casineb yn y cyfnod byr a hirdymor.

“Mae’n rhaid parhau i amau dibyniaeth barhaus y Llywodraeth ar ymyriadau cyfiawnder troseddol traddodiadol o ran rhagor o blismona neu well plismona yn ogystal â dedfrydu llymach.

“Mae’r ffaith bod troseddau casineb yn dibynnu cymaint ar rymoedd dros dro’n awgrymu’n glir bod angen ailasesu hyn.

“Mae angen rhagor o ymchwil i ddeall y cysylltiadau hyn yn well.”