Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pwyso am leihau nifer y bobol yng Nghymru sy’n cael eu carcharu dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, wrth i ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru ddangos bod nifer y bobol wedi codi eto yn 2020/21.

Cynyddodd cyfanswm y bobol a gafodd eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 erbyn hyn gan 10% i 2,157 o gymharu â 2019-2020.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd oedd â’r nifer uchaf o bobol yn cael eu cadw (455), gyda Chaerdydd a’r Fro yn ail agos (451).

Caerdydd a’r Fro oedd â’r gyfradd uchaf – 8.9 ym mhob 10,000 o’r boblogaeth.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn annog yr awdurdodau i sicrhau mwy o gynnydd yn gynt wrth wella mynediad at driniaeth iechyd meddwl ledled Cymru.

‘Angen eu trin nid eu cadw gan yr heddlu’

“Mae’n hynod o bryderus gweld nifer y carchariadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cynyddu eto,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Ni fyddwn yn fodlon nes na fydd neb yng Nghymru yn cael ei gadw oherwydd iechyd meddwl.

“Dylai’r rhai sy’n profi argyfwng iechyd meddwl gael eu trin gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, nid eu cadw gan yr heddlu.

“Yr hyn sydd angen i ni ei weld yw mwy o arian yn cael ei ddyrannu i helpu pobol â phroblemau iechyd meddwl cyn iddynt gyrraedd pwynt o argyfwng.

“Mae hyn yn arbennig o wir ar ôl y pandemig yr ymddengys ei fod wedi arwain at gynnydd yn y rhai sydd angen cymorth iechyd meddwl.

“Rydym hefyd yn gwybod bod anawsterau ariannol yn cyfrannu’n bennaf at iechyd meddwl gwael, gyda’r argyfwng costau byw yn gynddeiriog, mae’n hanfodol bod pobol yn cael cymorth ariannol digonol.

“Mae’r straen o orfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta, neu a allwch chi fforddio bwydo’ch plentyn ai peidio yn rhywbeth na ddylai unrhyw un orfod mynd drwyddo.

“Mae gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru hanes balch o frwydro dros gydraddoldeb cyfreithiol rhwng iechyd meddwl a chorfforol a byddant yn parhau i frwydro am fwy o fuddsoddiad yn ein gwasanaethau iechyd meddwl.”