Mae gan aelodau’r blaid Junts per Catalunya, y partner iau yn llywodraeth glymblaid Catalwnia, tan 5 o’r gloch nos fory (nos Wener, Hydref 7) i benderfynu ar ddyfodol y blaid o fewn y llywodraeth.
Bydd 6,465 o bobol yn gymwys i ateb y cwestiwn, ‘A ydych chi eisiau i Junts barhau i fod yn rhan o lywodraeth bresennol Catalwnia?’, a bydd yn rhaid iddyn nhw ateb ‘Ydw’ neu ‘Nac ydw’, neu mae ganddyn nhw’r hawl i beidio ateb.
Mae barn yr arweinwyr gwleidyddol sy’n rhan o’r llywodraeth glymblaid wedi’i hollti ar y mater, gyda rhai o blaid gadael y gyfundrefn bresennol, ond mae’r rhan fwyaf o weinidogion o dan arlywyddiaeth Pere Aragonès, arweinydd Esquerra Republicana, o blaid aros yn rhan ohoni.
Ymhlith yr enwau mwyaf i osgoi ateb y cwestiwn hyd yn hyn mae Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, ac yntau wedi dweud yn wreiddiol y byddai’n datgan ei farn yn gyhoeddus cyn gwneud tro pedol.
‘Nac ydw’
Ymhlith y rhai sy’n ffafrio gadael y gyfundrefn bresennol mae’r llywydd Laura Borràs a’r cyn-arlywydd Carles Puigdemont.
Mae Borràs wedi datgan ei barn yn gyhoeddus, gan feirniadu’r ffaith fod y pwyllgor gwaith “wedi penderfynu peidio arwain annibyniaeth”, rhywbeth mae hi’n dadlau sy’n “allweddol”.
Mae Carles Puigdemont hefyd wedi amlinellu ei resymau ar y cyfryngau cymdeithasol, tra bod Josep Rius, dirprwy lywydd y blaid, wedi cyhoeddi erthygl yn dweud “Ie i Junts, ie i annibyniaeth, na i’r llywodraeth hon”.
Ymhlith y rhai eraill sy’n ffafrio gadael mae Jordi Puigneró, y cyn-ddirprwy arlywydd a gafodd ei ddiswyddo’r wythnos ddiwethaf, y cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd alltud Toni Comín, y gweinidog ymchwil a phrifysgolion Gemma Geis, Maer Girona Marta Madrenas, Albert Batet, Joan Canadell a Jaume Alonso-Cuevillas.
‘Ydw’
Mae’r rhan fwyaf o weinidogion presennol o blaid pleidleisio ‘Ydw’ ac aros yn y cabinet presennol.
Yn eu plith mae gweinidog yr economi Jaume Giró, y gweinidog tramor Victòria Alsina, y gweinidog cyfiawnder Lourdes Ciuró, a’r gweinidog hawliau cymdeithasol Violant Cervera.
Yn ôl Alsina, byddai gadael y llywodraeth mor fuan yn “naid i’r tywyllwch”.
Ymhlith y rhai eraill sydd eisiau aros yn y llywodraeth bresennol mae’r cyn-garcharorion Quim Forn a Jordi Sànchez, y cyn-weinidog mewnol Miquel Buch, arlywydd porthladd Barcelona Damià Calvet, cyn-faer Barcelona Xavier Trias, cynghorydd Barcelona Neus Munté, a’r aelod seneddol David Saldoni.
Cafodd Jordi Sànchez ei garcharu am flwyddyn am ei ran yn y refferendwm annibyniaeth yn 2017, ac mae e wedi beirniadu Esquerra am fethu â chadw at y cytundeb llywodraeth.
Argyfwng
Fe ddechreuodd yr argyfwng o fewn y llywodraeth yr wythnos ddiwethaf pan gafodd Jordi Puigneró, y dirprwy arlywydd, ei ddiswyddo gan Pere Aragonès, yr arlywydd, ar ôl iddo golli ffydd ynddo.
Roedd hyn ar ôl i Junts awgrymu pleidlais hyder yn arweinydd y llywodraeth y diwrnod cynt.
Fe wnaeth Junts osod terfyn amser i Aragonès ddod i gytundeb ar ddyfodol y llywodraeth, ond fe wnaethon nhw gyhoeddi pleidlais fewnol yr un pryd fel bod modd i’w haelodau leisio’u barn ar y mater.
Mae Junts per Catalunya ac Esquerra Republicana, y ddwy blaid lywodraeth sydd o blaid annibyniaeth, yn anghytuno ar y ffordd ymlaen i’r ymgyrch tros annibyniaeth er eu bod nhw’n gytûn ar yr egwyddor ar y cyfan.
Tra bod Junts yn ffafrio herio Sbaen ar y mater, fel digwyddodd yn ystod y refferendwm ‘anghyfansoddiadol’ yn 2017, mae Esquerra yn ffafrio cynnal trafodaethau â Madrid yn y gobaith y bydd modd eu perswadio i gynnal refferendwm yn debyg i’r hyn gafodd yr Alban yn 2014.