Mae Uned Iaith Cyngor Gwynedd wedi lansio dau fap rhyngweithiol er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg.

Y cyntaf yw Map Gweithgareddau a Chlybiau Cymunedol Gwynedd, sydd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd.

Mae’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am weithgareddau, cymdeithasau a chlybiau ar gyfer pob oed a diddordeb ar draws y sir sy’n rhoi cyfleoedd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae’r ail fap, Map Enwau Lleol, ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd hefyd.

Mae hwn wedi’i greu er mwyn creu cofnod byw o enwau llafar, anffurfiol ar leoliadau a nodweddion daearyddol ledled Gwynedd.

Mae’n rhan o waith Prosiect Enwau Llefydd Cynhenid y Cyngor, ac yn ymgais i greu adnodd hawdd ei ddefnyddio, fydd yn galluogi grwpiau, ysgolion ac unigolion i roi ar gof a chadw rai o’r enwau unigryw hynny sydd yn bodoli ar lawr gwlad.

Y ffordd mae’r map yn gweithio yw fod modd ychwanegu nodweddion i’r map megis cae, stryd neu adeilad gan gynnwys disgrifiad, pwt o wybodaeth gefndirol neu lun.

Bydd unrhyw gofnodion wedyn yn ymddangos ar y map, a’u lleoliadau wedi eu marcio gyda dotiau gwahanol liwiau yn ôl y math o nodwedd ydyn nhw.

‘Gwirfoddolwyr’

“Rydym ni’n lwcus iawn yma yng Ngwynedd bod cymaint o wirfoddolwyr yn trefnu a chynnal gweithgareddau rheolaidd yn ein cymunedau, a hynny yn gyfan gwbl naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Gwenllian Williams, Ymgynghorydd Iaith Cyngor Gwynedd.

“Mae’r grwpiau a’r clybiau yma yn allweddol i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw gymunedol.

“Mae’r map yma yn ffordd o gydnabod a helpu rhannu gwybodaeth am y grwpiau a chlybiau yma a gwneud yn siŵr bod pobol yn gwybod lle i ddod o hyd i wahanol weithgareddau o fewn eu cymunedau.”

‘Hanes a threftadaeth leol’

“Mae nifer fawr o hen enwau ar strydoedd, ardaloedd, nodweddion daearyddol, pontydd ac yn y blaen nad ydynt ar fapiau swyddogol, ond eto maen nhw’n cael eu defnyddio ar lafar bod dydd o fewn ein cymunedau,” meddai Mei Mac, Swyddog Prosiect Enwau Lleoedd Cyngor Gwynedd.

“Maen nhw’n enwau difyr ac fel unrhyw enw lle yn cynnwys cyfeiriadaeth gyfoethog o hanes a threftadaeth leol.