Mae grŵp cymorth i bobol fyddar yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi beirniadu’r drefn ar gyfer bwcio cyfieithydd ar y pryd i fynd gyda nhw i apwyntiadau brys.
Ar hyn o bryd, y bwrdd iechyd sy’n gyfrifol am drefnu cyfieithydd ar y pryd i gleifion byddar trwy Wasanaeth Cyfieithu Cymru, yn hytrach na chleifion byddar yn bwcio cyfieithydd trwy’r gwasanaeth drostyn nhw eu hunain, ac mae hyn yn achos cryn anawsterau, meddai’r grŵp.
Maen nhw’n dweud bod achosion lle mae rhai cleifion yng Nghaerdydd a’r Fro wedi methu cael mynediad at gyfieithydd ar y pryd ar gyfer apwyntiad, ac achosion eraill lle na fu cais am gyfieithydd ar y pryd ond fod un wedi cael ei drefnu drostyn nhw serch hynny.
Y prif destun pryder yw na all cleifion wneud trefniadau addas drostyn nhw eu hunain, ac mae’r ysgrifennydd Cedric Moon yn dweud bod hyn yn “achosi problemau” mewn achosion brys lle nad oes digon o amser i wneud y trefniadau mwyaf addas.
“Ond mae pobol fyddar bellach yn gallu gwirio gyda Gwasanaeth Cyfieithu Cymru a oes ganddyn nhw gyfieithydd ar gyfer apwyntiad gyda’r Gwasanaeth Iechyd. Y cwestiwn yw, pam fod angen i bobol fyddar wirio?” meddai.
“Dylen nhw gael eu hysbysu’n ddiofyn gan Wasanaeth Cyfieithu Cymru neu’r darparwr yn y Gwasanaeth Iechyd fod cyfieithwyr wedi cael eu bwcio, a chael enw’r cyfieithydd.”
Gwasanaeth Cyfieithu Cymru
Cafodd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru ei lansio yn 2009, ac roedd yn arfer cael ei redeg gan Heddlu Gwent cyn i Gyngor Caerdydd dderbyn y cyfrifoldeb yn 2017.
Yn ôl Cais Rhyddid Gwybodaeth i Gyngor Caerdydd, y ffi ar gyfer cyfieithydd ar y pryd sy’n medru iaith arwyddion yw £102 ar gyfer tair awr o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8yb ac 8yh.
Y ffi ar gyfer nosweithiau (rhwng 8yh ac 8yb) neu’r penwythnos a gwyliau banc yw £144 ar gyfer tair awr.
“Dylid gofyn i bobol fyddar a oes angen cyfieithydd neu ddarllenydd gwefusau arnyn nhw ar gyfer apwyntiad,” meddai Cedric Moon wedyn.
“Os caiff cyfieithydd ei roi i berson byddar sydd heb ofyn am un, yna mae’r cyfieithydd yn cael ei anfon oddi yno ac wedi’i dalu’n llawn ac fe allai olygu bod person arall sy’n fyddar yn gorfod aros i un ddod ar gael.
“Mae’r sefyllfa gyda Gwasanaeth Cyfieithu Cymru wedi codi oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi methu yn eu dyletswydd o ofal i sicrhau bod gwasanaethau Gwasanaeth Cyfieithu Cymru ar gyfer pobol fyddar yn diwallu eu hanghenion.”
Ymateb Cyngor Caerdydd
“Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru’n wasanaeth nid-er-elw sy’n darparu pobol broffesiynol ym maes ieithyddiaeth mewn dros 120 o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, i fwy na 30 o sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.
“Mae’r gwasanaeth ‘siop un stop’ hwn ar gyfer y sector cyhoeddus yn disodli’r angen am drefniadau cyfieithu ar wahân ac yn gwella ansawdd a dibynadwyedd y gwasanaeth ledled y wlad.
“Ar gyfartaledd, mae’r gwasanaeth yn dod o hyd i gyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain yn llwyddiannus ar gyfer 97% o’r ceisiadau sy’n cael eu gwneud.
“Dyletswydd y sefydliad sy’n darparu gwasanaeth yw canfod a oes angen cyfieithydd ar ddefnyddiwr gwasanaethau.
“Gall defnyddwyr gwasanaethau gadarnhau a gafodd cyfieithydd eu bwcio ar gyfer apwyntiad yn uniongyrchol â Gwasanaeth Cyfieithu Cymru, ond nid i drefnu apwyntiad, sy’n gorfod cael ei wneud gan y darparwr gwasanaethau.
“Mewn achosion lle daethpwyd o hyd i gyfieithydd ar gyfer sefydliadau ond lle caiff gwasanaethau eu canslo heb rybudd addas, mae’r sefydliad yn gyfrifol am y taliadau sy’n ddyledus.
“Mater i’r sefydliad sy’n defnyddio Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yw hwn.”
Ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
“Fel bwrdd iechyd, rydym yn dal wedi ymrwymo i gydweithio â’n cymunedau byddar i wella’u mynediad at gyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain lle bo gofyn, naill ai wyneb yn wyneb neu’n rithiol,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
“Yn dilyn pryderon gan y gymuned fyddar, a fynegodd pa mor bryderus y gall fod i bobol os nad oes ganddyn nhw gadarnhad cyn apwyntiad fod cyfieithydd wedi’i drefnu, cyflwynodd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru y gallu i bobol sy’n fyddar gysylltu â nhw drwy alwad fideo Iaith Arwyddion Prydain drwy eu gwefan o ran a oedd cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain wedi’u bwcio.
“Y broses o fewn y bwrdd iechyd yw bwcio cyfieithydd wrth drefnu apwyntiad er mwyn sicrhau bod hyn yn ei le ymlaen llaw, a lle bo’n bosib, fod modd gwneud cais am y cyfieithydd mae’r claf yn ei ffafrio.
“Rydym yn croesawu y gall unrhyw un sy’n rhagweld unrhyw broblemau â’r broses hon gysylltu â’n tîm Pryderon, naill ai drwy ein llinell gymorth pryderon fideo arwyddo neu drwy e-bost gan ddefnyddio concerns@wales.nhs.uk”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Lle bo angen cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain ar gleifion, dylai byrddau iechyd wneud y trefniadau angenrheidiol a sicrhau bod cyfieithwyr yn bodloni’r safonau priodol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn parhau i gydweithio â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i’w helpu nhw i fodloni’r safonau hynny.”