Mae’r system o frysbennu apwyntiadau i weld meddygon teulu yn achosi pryderon difrifol i gleifion a staff y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl nifer o bobol sydd wedi bod yn siarad â golwg360 ac yn mynegi eu teimladau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwelodd llawer o ardaloedd dinesig a chefn gwlad y system frysbennu yn cael ei chyflwyno yn eu meddygfeydd dros y cyfnod clo.
Mae’r system yn golygu bod rhaid i gleifion sy’n teimlo bod angen mynediad arnyn nhw at apwyntiad meddygol brys ar yr un diwrnod ffonio am oddeutu 8 o’r gloch y bore, ac aros nes eu bod nhw’n cyrraedd blaen y ciw er mwyn siarad â derbynnydd, cyn derbyn apwyntiad dros y ffôn.
Cŵyn gyffredin ymysg cleifion ydy nad oes apwyntiadau ar ôl ar gyfer y diwrnod hwnnw erbyn iddyn nhw gyrraedd blaen y ciw.
Ond ochr draw’r llinell ffôn, mae’r doctoriaid yn teimlo fel ei bod hi’n amhosib iddyn nhw barhau â’u gwaith erbyn hyn.
Wedi’r cyhoeddiad ddydd Llun (Hydref 3) fod y Canghellor Kwasi Kwarteng yn bwriadu gwneud toriadau o £18bn y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus, mae cleifion a meddygon yn poeni am ddyfodol meddygfeydd.
‘Anobaith’
Un sy’n teimlo nad ydy hi’n system gynaliadwy ydy Justine Swainson o Gaerdydd.
“Dw i wir ddim y deall y system ddim mwy ac mae o’n ofnadwy o rwystredig,” meddai wrth golwg360.
“Mae gen i gofnodion ar fy ffôn sy’n dangos fy mod i wedi ffonio 150 gwaith mewn bore, a 127 gwaith fore arall.
“Mae’n cymryd dros hanner awr i siarad gyda rhywun fel arfer, ac erbyn yr amser dw i’n cael trwodd, does yna ddim apwyntiadau ar ôl ar gyfer y diwrnod.
“Dydw i ddim mewn unrhyw ffordd yn dweud bod gwaith meddyg teulu ddim yn galed.
“Maen nhw’n gweithio oriau hir ac yn gwneud gwaith dwys.”
Dywed fod y system yn golygu ei bod hi naill ai wedi rhoi’r gorau i drio trefnu apwyntiad neu’n teimlo bod rhaid iddi or-ddweud ei symptomau er mwyn cael gwell siawns o drefnu apwyntiad.
“Cyn Covid, fyddwn i wedi gweld y doctor am bethau penodol, neu wedi mynd yn ôl os na chafodd ei ddatrys.
“Ond erbyn hyn, dydi o ddim yn teimlo fel ei fod o werth y strach.
“Dydyn ni’n bendant ddim yn cael y gwasanaeth yr oedden ni cyn Covid.”
Mae hi hefyd wedi osgoi’r feddygfa gan fynd yn syth at arbenigwr preifat ar adegau – rhywbeth mae hi’n cyfaddef nad yw’n opsiwn i bawb.
“Dw i wir yn credu fod angen i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod yna, ond dw i’n teimlo bod pobol yn cael eu gorfodi i wneud hyn.
“Ond y fwyaf o bobol sy’n mynd at bobol breifat, y gwaethaf ydy o i’r Gwasanaeth Iechyd, achos mae’n rhoi’r esgus i wleidyddion mai dyna’r ffordd ddylai bethau weithio gan ei fod yn tynnu pwysau oddi ar y Gwasanaeth Iechyd.
“Dw i ddim wir yn gallu fforddio mynd yn breifat, ond anobaith sydd wedi fy ngyrru i lawr y lôn yna.”
‘Mae e’n warth ond mae pawb yn yr un sefyllfa’
Un arall o Gaerdydd sy’n wynebu problem debyg ydy Andreas Gwydion ap Gwyn, cyn-bennaeth Celf Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.
Cafodd e ddiagnosis o lewcemia yn 2013, ac er nad ydy o’n byw â’r salwch erbyn hyn, mae’r driniaeth a dderbyniodd yn golygu ei fod e wedi wynebu lot o afiechyd dros y ddeng mlynedd diwethaf gan fod ei system imiwnedd yn wannach.
“Dw i wedi cael strôc a phob math o heintiau sydd i’w cael pan mae dy imiwnedd yn isel, achos ar ôl trawsblaniad mae dy imiwnedd wastad yn mynd i fod yn isel iawn,” meddai.
“Ro’n i’n shielder yn ystod Covid, a dw i’n berson sydd wedi cael chwe phigiad.
“Felly, pan dw i angen gweld meddyg teulu mae’n gallu bod yn argyfwng, ond efallai ddim cweit yn ddigon o argyfwng i gyfiawnhau mynd i’r ysbyty, er enghraifft.
“Dw i jest fel pob person arall erbyn hyn, ble ti’n ffonio gyda’r bore ond erbyn 8:30yb ar y dot mae’r ffôn yn brysur.
“A does dim gobaith gen ti i gael ateb.
“Mae yna achlysuron wedi bod trwy’r bore ble dw i wedi ffonio, ffonio a ffonio hyd at 50 o weithiau heb unrhyw lwc o gwbl.
“Ond mae’n cymryd 50 o alwadau i siarad gyda’r derbynnydd iddyn nhw ddweud bod pob apwyntiad wedi’i gymryd.
Mae e felly’n dibynnu’n aml ar ei gysylltiad â’r ysbyty lle cafodd ei driniaeth at lewcemia yng Nghaerdydd.
“Y broblem ydy, unwaith ti wedi bod dan ofal yr adran haematoleg am hyn o hyn o flynyddoedd, maen nhw eisiau i ti gael cymorth gan dy feddyg teulu.
“Achos i fod yn deg, mae’r arbenigwyr yn delio gydag arbenigedd nhw.
“Cyn Covid, ro’n i’n gallu chwarae’r cerdyn lewcemia, er ’mod i ddim yn licio, ac er mai beth sydd gen i heddiw ydy effeithiau’r driniaeth.
“Ond tydi hynny ddim yn gweithio erbyn hyn.
“Mae e’n warth ond mae pawb yn yr un sefyllfa.”
Argyfwng i ddod
Ar ochr arall y broblem, mae’r doctoriaid, nyrsys, derbynyddion a holl staff y meddygfeydd.
“Rydyn ni’n trio mor galed ag y gallwn i wneud cymaint ag y gallwn,” meddai Dr Sonia Rooke, sy’n wreiddiol o Dde Affrica ond yn gweithio fel meddyg teulu yn Llandysul ers 21 o flynyddoedd.
Er ei bod hi’n dweud bod eu meddygfa nhw’n fwy lwcus nag eraill o ran ei chymhareb meddyg i gleifion, mae hi’n dweud eu bod nhw’n methu cadw ar y blaen i’r galw ar hyn o bryd.
“Does dim ots faint rydych chi’n ei ddarparu, tydi o byth yn ddigon,” meddai.
“Dw i’n dechrau am 9yb, dydi hi ddim yn bosib cymryd egwyl nes 2 o’r gloch, felly dwi’n cael cinio sydyn ac yn cychwyn eto am 2:30yp.
“Does ddim amser i wneud unrhyw waith papur, edrych dros ganlyniadau profion gwaed, darllen llythyrau…
“Mae lot o’r partneriaid yn mynd â chyfrifiaduron adref i wneud y gwaith.
“Ond y sefyllfa ydy, dydy e ddim ein bod ni fel staff methu trwsio’r system, does jest dim modd ei thrwsio.”
Mae hi bellach yn poeni y bydd sefyllfa lle bydd hyd yn oed llai o feddygon teulu ar gael.
Yn ei gwaith, mae hi hefyd yn gyfrifol am fentora a hyfforddi meddygon i arbenigo fel meddygon teulu.
“Mae’r bobol ifanc sy’n dod i mewn i ymarfer yn mynd i ddweud nad oes unrhyw ffordd maen nhw am weithio fel yna.
“Dydw i ddim eisiau hyfforddi meddygon i weithio fel hyn yn y dyfodol achos dydw i ddim yn teimlo ei bod yn swydd dda.
“Rydyn ni am landio mewn problem anferth yn y dyfodol agos ble mae’r rheiny yn eu 50au am ddweud nad ydyn nhw’n fodlon gwneud e ddim mwy.
“Alla’i ddim beio cleifion, dydy e ddim yn fai arnyn nhw.
“Ond mae’r system wedi’i thanariannu ers cyhyd.
“Rydyn ni wedi ein llethu’n llwyr.”
Dywed hefyd ei bod hi wedi cwestiynu ar adegau a ydy hi’n gallu parhau â’r swydd oherwydd y straen.
“Y teimlad cyffredinol mewn meddygaeth deuluol ar hyn o bryd yw cyfuniad o bryder pur a theimlad suddedig na allwch chi wneud eich swydd mewn diwrnod a dal i deimlo fel bod dynol ar ei diwedd.”
Ymateb i’r toriadau
Mae cleifion a meddygol fel ei gilydd yn poeni am ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd yn sgil y cyhoeddiad y bydd toriadau.
Roedd 495 o feddygfeydd teulu yng Nghymru yn 2007, o gymharu â 391 erbyn diwedd 2021.
“Rwy’n ymwybodol fod yr ysbryd eisoes yn isel mewn proffesiynau gofal iechyd,” meddai Justine Swainson.
“Ond mae’n teimlo fel ei fod yn gwneud gofal preifat yn knight in shining armour sy’n dod i ddatrys popeth, sy’n syniad erchyll.
“Rydyn ni wir angen brwydro dros y Gwasanaeth Iechyd.”
Dydy’r toriadau sydd i ddod “ddim yn syrpreis” i Andreas Gwydion ap Gwyn.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi torri ac er bod fy mywyd wedi’i achub gan y gwasanaeth arbennig o dda ganddyn nhw, mae angen beirniadu’r gwasanaeth.
“Mae angen edrych ar weddill y cyfandir a beth maen nhw’n gwneud, efallai fod ganddyn nhw systemau sy’n gweithio’n well na’n system ni.”
Mewn byd delfrydol, byddai Dr Sonia Rooke yn gofyn am fwy o arian er mwyn gwneud ei gwaith, meddai.
“Byddwn i’n cael 15 i 20 munud gyda phob claf, yn gallu delio gyda phob mater a fod cleifion ddim yn gorfod disgwyl hir am ofal eilradd, a chael mwy o ddoctoriaid i bob claf.”