Fe wnaeth Ynys Môn gynrychioli Cymru yn y Fforwm Ynysoedd cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar.

Cymerodd cynrychiolwyr o ynysoedd Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ran yn y digwyddiad yn Orkney.

Cafodd y digwyddiad ei gadeirio gan Nadim Zahawi, Ysgrifennydd Cysylltiadau Rhynglywodraethol San Steffan.

Bwriad y fforwm yw darparu ymgysylltiad rheolaidd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, llywodraethau datganoledig a chymunedau ynysoedd er mwyn sicrhau bod eu hanghenion a heriau cyffredin yn cael eu hadlewyrchu ym mholisïau’r Deyrnas Unedig wrth wneud penderfyniadau ac wrth ddosbarthu cyllid.

‘Balch o allu dangos Rhaglen Ynys Ynni Môn’

Croesawodd y Cynghorydd Robin Williams, deilydd portffolio Cyllid Cyngor Môn, y cyfle i fynychu’r Fforwm yn Orkney ar ran y Cyngor Sir.

“Darparodd y Fforwm gyfle unigryw i gynrychiolwyr gwahanol Ynysoedd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i ddod at ei gilydd a gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau datganoledig er mwyn cydweithio ar gyfleoedd a heriau cyffredin,” meddai.

“Mae Orkney eisoes yn cael ei ystyried fel arweinydd byd-eang o ran creu ynni tonnau, llanw a hydrogen.

“Roedd hi’n braf bod prosiectau sy’n cael eu datblygu ar Ynys Môn yn cyd-fynd â dyheadau ynysoedd eraill a bod gennym gyfle i sicrhau gwir fuddion economaidd a chymunedol er mwyn cefnogi llesiant ein trigolion.

“Roeddem hefyd yn falch o allu dangos Rhaglen Ynys Ynni Môn yn uniongyrchol i’r Gweinidog gan amlygu ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r angen i ddatgarboneiddio cynhyrchiant ynni mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd sydd wedi’i ddatgan gennym.”

Dywedodd Christian Branch, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd Cyngor Ynys Môn, ei bod hi’n “bwysig bod ein llais yn cael ei glywed ar lefel y Deyrnas Unedig”.

“Un o nodweddion ein hynysoedd yw’r cymunedau gwydn, ieithoedd a diwylliannau unigryw ac amgylcheddau naturiol eithriadol,” meddai.

“Mae’r rhain i gyd yn cyfrannu gwerth sylweddol i’r Deyrnas Unedig.

“Darparodd y Fforwm Ynysoedd sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio yn y dyfodol wrth i ni efallai edrych ymlaen at groesawu aelodau’r fforwm i Fôn rhyw ddiwrnod.”