Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi cyflwyno datganiad o gefnogaeth i brotestwyr sydd wedi bod yn gwrthwynebu llywodraeth Iran dros yr wythnosau diwethaf.

Mae’r datganiad wedi denu cefnogaeth gan Blaid Cymru, y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr Cymreig wrth iddyn nhw alw am ragor o hawliau i fenywod.

Dechreuodd y protestiadau bythefnos yn ôl yn dilyn llofruddiaeth Mahsa Amini, dynes 22 oed a fu farw yn y ddalfa ar ôl cael ei harestio gan ‘heddlu moeseg’ Iran yn y brifddinas Tehran am iddi fethu â gwisgo’i hijab yn y ffordd gywir.

Mae adroddiadau bod yr heddlu moeseg wedi bod yn fwy llym a threisgar dros y misoedd diwethaf, gan ddwyn pobol i’r ddalfa am fethu â gwisgo’u hijab yn y ffordd gywir, sydd wedi ennyn dicter ar draws y wlad.

Dechreuodd menywod brotestio yn dilyn marwolaeth Mahsa Amini, wrth iddyn nhw ddechrau ymgynnull a thynnu eu hijab, ac fe arweiniodd hynny at ragor o wrthdaro, gyda mwy o bobol ifanc yn dechrau protestio, yn fenywod ac yn ddynion.

Fe fu protestiadau mewn dros 100 o ddinasoedd, ac maen nhw’n canolbwyntio ar hawliau menywod, tlodi a democratiaeth.

Mae oddeutu 1,700 o bobol sydd â phasbort Iran yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Y datganiad

Mae datganiad barn y Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar y Senedd i:

  • nodi marwolaeth Mahsa Amini, 22
  • condemnio gormes a thrais yn erbyn menywod a merched gan heddlu Iran, a sefyll mewn undod â phrotestwyr
  • annog Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarganfod pa gefnogaeth sy’n gallu cael ei rhoi i fenywod a merched yn Iran, gan gynnwys y rhai sydd eisiau gadael y wlad

‘Trasiedi sy’n symptom o weithredoedd totalitaraidd a chiaidd’

“Mae marwolaeth Mahsa Amini yn drasiedi na ddylai fod wedi digwydd, ac mae’n symptom o weithredoedd totalitaraidd a chiaidd ehangach cyfundrefn Iran,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae digwyddiadau’r diwrnodau diwethaf wedi ein hatgoffa ni yma yng Nghymru pa mor lwcus ydyn ni, a sut mae miliynau o fenywod ledled y byd yn dal i gael eu trin fel dinasyddion eilradd.

“Gallwn weld sut beth yw fflam ffeministiaeth a democratiaeth yn Iran.

“Rhaid i ni wneud popeth fedrwn ni i gefnogi’r menywod a’r merched dewr sy’n peryglu popeth er mwyn esgor ar newid.

“Mae’r menywod hyn yn brwydro yn wyneb lefelau annerbyniol o drais, bygythiadau a gwahaniaethu.

“Rhaid i’r Senedd sefyll mewn undod â’r sawl sydd ynghlwm wrth y frwydr hon, a rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau y gall unrhyw un sy’n ffoi rhag y gyfundrefn o ganlyniad i’w gweithredoedd gwleidyddol yn gallu hawlio lloches yng Nghymru trwy ein polisi cenedl noddfa.”

‘Y rhan fwyaf o strydoedd Tehran yn llwyfan ar gyfer y gwrthdaro rhwng yr heddlu a’r bobol’

Cadi Dafydd

“Allan o’r tristwch yma, dw i wir yn gobeithio y bydd yna newid a dw i’n meddwl mai dyna yw gobaith pobol Iran hefyd,” medd cantores sydd â theulu yno