Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio yn erbyn arwisgo’r Tywysog William ac o blaid diddymu’r teitl Tywysog Cymru.

Pleidleisiodd cynghorwyr o 46 pleidlais i bedwar i ddatgan eu bod yn gwrthwynebu’r teitl Tywysog Cymru, a’u bod nhw’n gwrthwynebu cynnal arwisgiad arall yng Nghymru.

Fe wnaeth pedwar cynghorydd atal eu pleidlais.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan Elfed Wyn ap Elwyn, y cynghorydd ar gyfer Bowydd a Rhiw.

Dywedodd cyn y bleidlais ei fod yn credu’n gryf fod y teitl Tywysog Cymru yn parhau’n symbol hanesyddol o oruchafiaeth dros Gymru gan Deulu Brenhinol gwlad arall.

“Mae Cymru heddiw yn wlad fodern, ddemocrataidd, gyda Senedd sy’n gwneud cynnydd, yn rhoi llais a llwyfan i bobol Cymru yrru newid a datblygu fel cenedl,” meddai.

“Mae’r traddodiad gormesol hwn yn staen ar ein cenedl ac wedi bod ers canrifoedd.

“Mae’n rhoi’r argraff fod pobol Cymru yn eiddo i’r system, yn hytrach na bod yn ddinasyddion rhydd sy’n byw yn ein gwlad ein hunain.

“Mae’n ein dal ni’n ôl rhag camu allan yn annibynnol a gwneud ein ffordd ein hunain yn y byd.

“Yn fy marn i, dyma’r amser i bobl Cymru gael y cyfle i leisio barn a diddymu’r teitl sarhaus hwn a drosglwyddwyd fel symbol gormesol parhaus ar ein tir a’n pobol.

“Nid yw’n gwneud synnwyr, yn fy marn i, fod cymaint o arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gynnal y teulu Brenhinol, gan gynnwys rôl Tywysog Cymru, o ystyried yr argyfwng costau byw y mae ein pobl yn dioddef ar hyd a lled y wlad.”

‘Sarhad’

Ychwanega Elfed Wyn ap Elwyn ei fod yn credu bod yr arwisgiad yn 1969 wedi rhannu’r genedl a chreu niwed i gymunedau ledled Cymru.

“Dylai pobol Cymru fod yn rhydd i wneud dewisiadau ein hunain a bod yn rhydd o unrhyw rwymau symbolaidd a osodwyd arnom,” meddai.

“Yn fy marn i, pechod fyddai diddanu’r syniad o gynnal parti seremonïol yn unrhyw le yng Nghymru.

“Byddai’n sarhad i Gymru a’i phobol i gynnal seremoni Arwisgo yng Nghymru.

“Mae’n hen bryd i’r teitl anrhydeddus honedig, Tywysog Cymru, gael ei ddiddymu i’r llyfrau hanes hefyd.”