Mae Plaid Cymru wedi siomi gyda’r ffaith y bydd Parthau Perygl Nitradau, neu NVZs, yn parhau ledled Cymru.
Cafodd y parthau eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2021, gyda’r bwriad o leihau llygredd mewn afonydd sy’n cael ei achosi gan y sector amaethyddol.
Roedd NFU Cymru wedi cyflwyno adolygiad barnwrol yn erbyn y penderfyniad gan ddweud bod y parthau yn “fygythiad i amaethyddiaeth“, ond mae’r Uchel Lys wedi penderfynu nad yw Llywodraeth Cymru’n torri’r gyfraith.
Mae’r ddeddfwriaeth yn golygu bod cyfyngiadau ar ddefnyddio rhai gwrteithiau a bod rhai wedi eu gwahardd yn llwyr.
Cyflwynwyd y ddeddf yn sgil pryderon bod dŵr yfed a bywyd gwyllt wedi cael eu heffeithio gan sylweddau nitradau mewn rhai ardaloedd.
‘Siomedig’
Cafodd apêl NFU Cymru ei wfftio gan yr Uchel Lys ddoe (Mawrth 23), gan nad oedd y Llywodraeth wedi “gweithredu’n anghyfreithlon” wrth gyflwyno’r gyfraith.
Wrth ymateb i’r penderfyniad, dywedodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, fod y canlyniad yn “siomedig i ffermwyr Cymru.”
“Dydy o ddim yn tynnu oddi ar y ffaith bod cwestiynau dilys wedi codi ynghylch y rheoliadau hyn,” meddai.
“Mae pawb eisiau gweld ansawdd dŵr yn gwella, ac [yn credu] y dylai pobol neu fusnesau sy’n cael eu dal yn llygru dyfrffyrdd dalu’r pris.
“Er hynny, rydyn ni’n credu bod dull cyffredinol yn anghymesur ac y bydd hyn yn wrthgynhyrchiol.”
‘Ffermwyr Cymru dan anfantais’
Yn dilyn y penderfyniad barnwrol, fe fydd y gwaharddiad llawn yn parhau mewn grym heb yr un newid.
Er y bydd cefnogaeth ariannol ar gael i ffermwyr wella safon dŵr, mae Mabon ap Gwynfor yn dal i gredu bod ffermwyr dan anfantais.
“Mae hefyd yn drueni bod y galwadau am ddirymiad rhannol [o’r gyfraith] wedi cael eu wfftio,” meddai wedyn.
“Mae hynny felly’n rhoi ffermwyr Cymru dan anfantais i ffermwyr eraill y Deyrnas Unedig.
“Byddwn yn parhau i weithio i geisio dod o hyd i ddull sydd wedi’i dargedu’n well er mwyn mynd i’r afael â llygredd dŵr gan y sector amaethyddol, ac nad yw’r sector cyfan yn cael ei gosbi o ganlyniad i weithredoedd rhai pobol mewn rhai ardaloedd.”
‘Siomedig iawn’
Mynegodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones, ei siom yn sgil y penderfyniad hefyd.
“Dw i’n amlwg yn siomedig iawn â’r dyfarniad, ond dw i’n falch bod NFU Cymru wedi gallu sefyll dros ffermwyr ledled Cymru a dal Llywodraeth Cymru’n atebol am eu penderfyniadau,” meddai Aled Jones.
“Doedd yr achos hwn ddim yn ymwneud â thrio anwybyddu digwyddiadau llygredd amaethyddol neu drio lleihau’r warchodaeth amgylcheddol; roedd e’n ymwneud â sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ddiwydiant amaethyddol Cymru ar sail asesiadau a dealltwriaeth briodol o’r effeithiau hynny.
“Dw i’n gobeithio bod y dadleuon a gafodd eu codi’n ystod yr achos hwn wedi gwneud i Lywodraeth Cymru gymryd sylw o’r effaith y bydd y rheoliadau hyn yn eu cael ar ffermwyr Cymru, a byddan ni’n parhau i edrych am gyfleoedd i ddod o hyd i ffyrdd i leihau’r baich sydd ar ffermwyr.”