Mae llystad Logan Mwangi yn honni ei fod e wedi dod o hyd i gorff di-fywyd y bachgen bach pump oed yn y gwely.
Mae John Cole, mam y pletyn Angharad Williamson, a llanc 14 oed wedi’u cyhuddo o’i lofruddio a gollwng ei gorff mewn afon.
Cafwyd hyd iddo yn afon Ogwr ar Orffennaf 31 y llynedd, gannoedd o fetrau yn unig o’i gartref yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd e wedi dioddef anafiadau catastroffig i’w gorff, gan gynnwys ei afu a’i goluddyn, yn ogystal â chleisiau a gwaedlif ar ei ymennydd.
Mae’r tri sydd wedi’u cyhuddo o’i lofruddio gerbron Llys y Goron Caerdydd ar hyn o bryd.
Yr heddlu’n holi John Cole
Ddoe (dydd Mercher, Mawrth 23), clywodd y rheithgor ddarnau o sgript yr heddlu ar ôl iddyn nhw gyfweld â John Cole.
Wrth gael ei holi, fe gyfaddefodd ei fod e wedi bod yn arw gyda Logan Mwangi, ond roedd yn gwadu gwneud niwed iddo.
Dywedodd fod y bachgen bach wedi bod yn “hunllefus”, ac y byddai’n aml yn taflu ei hun ar lawr, ac fe gyfaddefodd ei fod e wedi ei daflu ar y gwely a tharo cefn ei ben mewn rhwystredigaeth.
Ond fe ddywedodd ei fod e wedi dihuno ar Orffennaf 31 gan glywed Angharad Williamson yn gweiddio bod “Logan wedi marw”.
Dywedodd ei fod e’n “gorwedd ar ei gefn gyda’i ben i un ochr ac i fyny mewn lle rhyfedd – a’i goesau wedi’u hanner plygu wrth ei benliniau”.
Ychwanegodd fod ei lygaid “ar agor led y pen” ond fod ei ben “yn fflemp”.
Dywedodd ei fod e wedi ceisio rhoi CPR i’r bachgen bach am hyd at 15 munud, ond nad oedd e wedi ffonio 999, ond dywedodd yr heddlu nad oedd gan Logan anafiadau oedd yn awgrymu iddo dderbyn CPR.
Dywedodd John Cole ei fod e ac Angharad Williamson wedi “mynd i banig” ac wedi penderfynu rhoi corff y bachgen bach yn yr afon yn hytrach na ffonio’r heddlu, a’i fod e wedi dewis man lle’r oedd e a’r llanc wedi gollwng sbwriel rai diwrnodau ynghynt.
Roedd e’n gwadu iddo guro’r bachgen bach i farwolaeth.
Tystiolaeth rheolwr carchar
Clywodd y llys ddatganiad rheolwr troseddwyr yng ngharchar Caerdydd, lle cafodd John Cole ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd ei fod e, ar un achlysur ym mis Awst, wedi rhoi’r bai ar y llanc am ladd Logan Mwangi.
“Y peth yw, wnes i ddim lladd Logan,” meddai.
“Mae gen i gyfyng gyngor moesol, ydw i’n mynd i lawr am lofruddio ac yn diogelu [y llanc]?”
Y llanc
Dywedodd nifer o weithwyr cymorth fu’n gweithio gyda’r llanc wedi marwolaeth Logan Mwangi ei fod e’n defnyddio llais atgas a llais babi am yn ail os oedd e’n credu y byddai hynny’n ei atal rhag mynd i drafferth.
Dywedodd un ohonyn nhw, Julie Rowlands, ei bod hi’n cofio clywed y llanc yn canu ei fod e’n “caru taro plant yn y pen” pan gafodd e gais i fynd i’r gwely.
Dywedodd aelod arall o staff ei fod e wedi dweud ei fod e “wedi gwneud pethau drwg”, gan awgrymu ei fod e’n bwriadu pledio’n euog i lofruddio.
“Tasech chi’n gwybod beth sy’n mynd trwy fy mhen, credwch chi fi, dydych chi ddim eisiau gwybod,” meddai ar un achlysur.
Mae Angharad Williamson a’r llanc yn gwadu llofruddio a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae John Cole yn gwadu llofruddio ond yn cyfaddef iddo wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae Cole a Williamson hefyd wedi’u cyhuddo o achosi neu alluogi marwolaeth plentyn.
Mae’r achos yn parhau.