Mae clinigau newydd wedi cael eu sefydlu yng Nghymru i helpu i roi diagnosis canser yn gynt.

Mae’r Canolfannau Diagnosis Cyflym, sy’n helpu i roi diagnosis i gleifion â symptomau sy’n peri pryder, yn rhan o’r camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer canser.

Bydd y canolfannau’n ffordd o helpu byrddau iechyd i roi opsiwn ychwanegol i feddygon teulu ar gyfer ymchwilio i symptomau amwys a allai gael eu hachosi gan ganser.

Gall y canolfannau roi sicrwydd cyflym i bobol sydd heb ganser, helpu i wneud diagnosis o amryw o gyflyrau iechyd cronig eraill, neu gyfeirio pobol yn eu blaenau i gael triniaethau canser yn gynt.

Wrth groesawu’r canolfannau, dywed Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod gwella canlyniadau i gleifion canser yn un o brif flaenoriaethau’r Gwasanaeth Iechyd gan fod un o bob dau o bobol yn datblygu rhyw fath o ganser yn ystod eu hoes.

“Mae’n wych gweld gwaith arloesol o’r fath yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys canolfannau diagnosis cyflym a rhaglenni eraill i gynyddu capasiti, cyflymu diagnosis a lleihau pryder i gleifion ar adeg yn eu bywydau sy’n gallu bod yn anodd,” meddai.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’n gwasanaeth iechyd ond rwy’n falch o weld gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu gwasanaethau canser er gwell.”

‘Sicrwydd a diagnosis cynt’

Ychwanega Dr Daniel Menzies, Ymgynghorydd Meddygaeth Anadlol yn Ysbyty Glan Clwyd, fod Clinigau Diagnosis Cyflym yn rhoi eglurder i’r claf a sicrwydd i’r meddyg teulu, ac yn sicrhau, gobeithio, bod canserau yn cael eu canfod yn gynt nag y bydden nhw fel arfer.

“Mewn amgylchiadau arferol, mae cleifion sy’n dod at eu meddyg teulu gyda symptomau amhenodol yn cael nifer o brofion i ddarganfod beth sy’n eu hachosi,” meddai.

“Nawr mae’r cleifion hyn yn cael eu cyfeirio at y Clinig Diagnosis Cyflym mewn ychydig o dan wythnos. Mae gwerthusiad diagnostig yn cael ei gynnal, gan gynnwys yr holl ddelweddu CT, ac rydyn ni’n rhoi ateb iddynt o fewn yr amserlen honno.

“Mae’r clinigau’n rhoi sicrwydd a diagnosis yn gyflym i gleifion os oes pryderon am ganser.

“Gorau oll os gallwn wneud y diagnosis yn gynt a chael y driniaeth gywir i’r cleifion yn gyflymach. Ac, ac yn yr un modd, os ydyn nhw’n poeni beth allai fod yn achosi eu symptomau – colli pwysau er enghraifft – rydyn ni’n gallu rhoi eglurhad iddyn nhw a’u sicrhau nad oes problem sylfaenol ddifrifol.”

‘Pwysau na welwyd ei debyg’

Mae prosiect arall i geisio gwella amseroedd diagnosis a thriniaeth wedi’i gyflwyno ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i drin gwaedu ar ôl y menopos.

Mae’r Clinig Mynediad Cyflym newydd yn darparu gwasanaeth ‘gweld a thrin’ mewn un man i roi diagnosis cyflym i gleifion â symptomau gwaedu amwys ar ôl y menopos. Lle bo hynny’n bosibl, bydd gwasanaeth ar gael yr un diwrnod i’r rhai sydd angen archwiliad neu driniaeth bellach.

Yn ogystal â sicrhau lleihad sylweddol yn yr amser cyfartalog mae’n ei gymryd i gael diagnosis, mae’n lleihau’r pryder mae cleifion yn ei deimlo wrth aros, yn ôl Llywodraeth Cymru.

“Mae gwasanaethau canser y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan bwysau na welwyd ei debyg o’r blaen oherwydd effeithiau’r pandemig Covid a’r galw cynyddol cyn hynny am wasanaethau diagnostig a thriniaeth,” meddai’r Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Cymru ar gyfer Canser.

“Yn ogystal â’r angen am fuddsoddi mewn seilwaith ac, yn bwysicaf oll, y gweithlu canser, rhaid inni ddefnyddio’r cyfnod hwn i fynd i’r afael â phwysau ar wasanaethau er mwyn gwella ac arloesi yn y ffordd rydym yn cefnogi cleifion drwy lwybrau cymhleth.”