Mae hi’n anodd gweld y byddai modd dod ag achos o anffafriaeth ar sail acen yn erbyn cyflogwyr, yn ôl cyfreithwraig sy’n arbenigo ar y gyfraith gyflogaeth a’r gyfraith anffafriaeth.

Dan Ddeddf Anffafriaeth 2010, mae’n bosib dwyn achos o anffafriaeth ar sail sawl nodwedd warchodedig megis hil, anabledd, crefydd, neu oed.

Dydy acen neu iaith ddim yn cyfateb gyda hil neu genedligrwydd, meddai’r gyfreithwraig Fflur Jones, a dydy hi ddim yn ymwybodol o unrhyw achos lle mae acen wedi cael ei hystyried mewn achos o anffafriaeth ar ran hil.

Daw hyn yn dilyn honiadau bod merch o Gaerdydd wedi cael ei gwrthod am swydd oherwydd ei hacen Gymreig a’i “gweithgareddau rhanbarthol”.

Yn ôl trydariad gan Eluned Anderson, dywedodd y cwmni, nad yw’n cael ei enwi, eu bod nhw wedi penderfynu na fyddai ei “hacen Gymreig gref” na’i gweithgareddau rhanbarthol yn “siwtio awyrgylch y swyddfa”.

‘Ddim yn ddigon’

“Yn anffodus, dydy’r gyfraith ddim yn ofnadwy o ddefnyddiol o safbwynt hyn achos mae hi’n bosib dod ag achos o anffafrio ar sail dy genedligrwydd, ond dydy iaith neu acen ddim cweit yr un fath â chenedligrwydd,” meddai Fflur Jones wrth golwg360.

“Mae hi’n anodd iawn gweld y byddai modd iddi ddod ag achos o anffafrio ar ran hil neu genedligrwydd oherwydd y sylwadau sydd wedi cael eu gwneud am ei hacen hi achos dydy o ddim cweit yn ffitio’r diffiniad o be’ sydd wedi’i warchod.”

Yr hyn sy’n fwy diddorol o safbwynt y trydariad, meddai Fflur Jones, yw’r cyfeiriad at y gweithgareddau rhanbarthol.

“Dw i ddim yn gwybod digon i allu dweud yn bendant y byddai yna achos ar ran hynny, ond byddai’n ddiddorol cael gwybod y cefndir a gwybod be’ oedd bwriad y cwmni drwy gyfeirio at y gweithgareddau rhanbarthol – be’ yn union mae hynny’n ei olygu?

“Ond o ran y busnes acen, mi fyddai hi’n anodd iawn iddi ddod ag achos ar ben ei hun ynglŷn â hynny gan fod o ddim cweit yn cyfateb efo cenedligrwydd na hil.

“Dw i ddim yn ymwybodol o unrhyw achos felly sydd wedi bod, felly er gwaethaf y ffaith bod o yn rhywbeth sy’n insultio ni i gyd, fysa fo ar ben ei hun ddim yn ddigon i ddod ag achos o anffafrio, yn anffodus.”

‘Lle mae’r pendraw?’

Wrth ystyried a oes yna le i gynnwys acenion o fewn y diffiniad o anffafriaeth ar sail hil neu genedligrwydd, dywed Fflur Jones ei bod hi’n anodd gweld lle mae pen draw rhywbeth felly.

“Mi allet ti fod ag acen un lle, ond dy fod di’n uniaethu â chenedl hollol wahanol, felly mae’n anodd ydy o’n gywir i’w ymestyn o mor bell â hynny,” meddai.

“Mae acenion mor ranbarthol, does yna ddim ffasiwn beth â ‘Welsh accent’ mewn gwirionedd.

“Mae gen ti acenion Sir Feirionnydd, mae gen ti acenion Sir Gâr, Sir Aberteifi… mae acen yn newid o un cwm i’r llall, felly dw i’n meddwl ei fod o’n gam pell i weld sut y gall hwnna gael ei gynnwys fel blanced ar gyfer anffafrio yn gyffredinol ar sail cenedligrwydd.”