Mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ostwng trethi busnes er mwyn “achub canol ein trefi”.

Gwnaeth Sioned Williams y sylwadau wrth holi Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Mawrth 24).

Daw hyn yn dilyn cwynion a gafodd eu codi gan fusnesau stryd fawr leol yn ei rhanbarth eu bod nhw’n ei chael yn anodd ymdopi ag ardrethi busnes uchel.

“Mewn arolwg gan y Ffederasiwn Busnesau Bach fel rhan o’u hadroddiad newydd, ‘A Vision for Welsh Towns’, dywedodd pobol Cymru taw ‘siopau bach ac annibynnol ffyniannus’ oedd yr hyn y bydden nhw’n hoffi ei weld fwyaf yng nghanol eu tref neu stryd fawr leol,” meddai Sioned Williams.

“Hyd yn oed cyn Covid, roedd canol trefi yn fy rhanbarth yn ei chael hi’n anodd ac mae’r pandemig wedi cael effaith arbennig o negyddol ar fusnesau manwerthu bychain yng nghanol ein trefi sy’n cael eu rhedeg gan deuluoedd.

“Mae’r gefnogaeth a roddwyd i’r busnesau lleol hyn yn ystod y pandemig wrth gwrs wedi eu helpu i oroesi’r storm arbennig honno, ond nawr, er bod cyfyngiadau’n llacio, mae nifer yr ymwelwyr yn parhau i fod yn isel ac mae’r biliau’n cynyddu.

“Wrth i ardrethi busnes uchel ddwysau’r heriau sy’n wynebu canol trefi, a wnaiff y Gweinidog ystyried cynyddu’r rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu canol trefi, a gwrando ar alwad y Ffederasiwn Busnesau Bach i gyhoeddi ei adolygiad o’r system ardrethi busnes ac amlinellu cynigion ar gyfer diwygio sylweddol sy’n gweithio i fusnesau bach lleol ar fyrder?”

“Gweledigaeth”

Wrth ymateb, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mater i’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol yw diwygio ardrethi busnes.

“O ran y system rhyddhad ardrethi, rydym wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi i amrywiaeth o fusnesau a byddem yn annog busnesau i sicrhau eu bod nhw’n manteisio ar eu hawl i’r rhyddhad ardrethi o 50%.

“Yn awr, ar ôl cael, mewn gwirionedd, dim ardrethi busnes mewn amrywiaeth o’r meysydd hynny, bydd wynebu unrhyw ardrethi busnes yn her i rai busnesau, ac yn dwysáu, wrth gwrs, yn sgil yr argyfwng costau byw.

“Felly, mae’r weledigaeth adwerthu yr ydym yn gweithio arni hyd yn oed yn bwysicach oherwydd yr hyn y gallwn ei wneud gyda’n gilydd i sicrhau bod gennym ddyfodol ffyniannus a chadarnhaol ar gyfer manwerthu mawr a bach.”