Ar Ddydd Cofrestru Pleidleisio heddiw (Mawrth 24), mae ymgyrch ar y gweill i geisio annog pobol ifanc i bleidleisio.

Bydd pobol ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru am y tro cyntaf ym mis Mai, wedi i Lywodraeth Cymru ostwng yr oedran pleidleisio.

Cafodd pobol ifanc gyfle i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd y llynedd.

Er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau ymgyrch hysbysebu genedlaethol i annog pobol i bleidleisio, mae ffigurau blaenllaw ym myd pêl-droed Cymru bellach wedi ymuno ag ymgyrch #GallafMiAllaf.

Mae Natasha Harding, Angharad James, Esther Morgan, a Ffion Morgan wedi dangos eu cefnogaeth, yn ogystal â Jess Fishlock.

“Os ydych chi dros 16 oed cofrestrwch i bleidleisio yn etholiadau lleol mis Mai,” medden nhw.

“Diolch am godi eich lleisiau yn y stadiwm ond cofiwch godi eich llais yn eich cymuned hefyd.”

Mae’r seren TikTok Ieuan Cooke wedi recordio cyfres o negeseuon yn annog pobol ifanc i gofrestru i bleidleisio hefyd, gan eu rhannu â 400,000 o ddilynwyr.

“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc leisio’u barn ac mae’n rhad ac am ddim ac yn hawdd i’w wneud,” meddai Ieuan Cooke.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl ifanc yn clywed y negeseuon hyn a’u bod nid yn unig yn uniaethu â nhw, ond hefyd eu bod yn cael eu hysbrydoli i gofrestru a phleidleisio yn yr etholiad.”

‘Pwysleisio pwysigrwydd pleidleisio’

Mae ysgolion a llyfrgelloedd lleol wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymgyrch hefyd drwy sefydlu pwyntiau cofrestru pwrpasol, gyda staff wrth law i arwain disgyblion drwy’r broses gofrestru.

Dywedodd Arweinydd Pwnc Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin eu bod nhw’n teimlo ei bod hi’n bwysig annog myfyrwyr i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd.

“Mae’n dod yn fwyfwy pwysig bod pobol ifanc yn teimlo y gallan nhw chwarae rhan ymarferol yn y gymuned ac rydyn ni’n teimlo mai ein rôl ni yw sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r wybodaeth briodol i allu cymryd rhan yn y broses,” meddai Gareth Jones.

“Yn yr etholiadau lleol, trafodir materion sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd ac rydyn ni’n ceisio pwysleisio pwysigrwydd pleidleisio wrthyn nhw, a pha mor hawdd yw cofrestru i wneud hynny.

“Ar nodyn cadarnhaol iawn, mae llawer o’r bobol ifanc yn ymddiddori’n fawr yn y broses ddemocrataidd ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddylanwadu ar eu cyfoedion.”

Cynllunio dyfodol Cymru

Yn ôl Kayla Forde, sy’n fyfyrwraig 16 oed yn Ysgol Uwchradd Alun yn yr Wyddgrug ac yn aelod o banel ymgynghori ieuenctid Comisiynydd Plant Cymru, gall pobol ifanc chwarae rhan allweddol wrth gynllunio dyfodol y wlad.

“Mae yna ganfyddiad mai dim ond pobol hŷn sydd â diddordeb yn y broses ddemocrataidd ond rydw i’n gwybod bod pobol fy oedran i eisiau helpu i wneud gwahaniaeth fel bod ein cenhedlaeth ni hefyd yn cael ei chynrychioli,” meddai Kayla Forde.

“Mae pleidleisio yn rhoi cyfle i bob person ifanc gael dweud eu dweud ar y penderfyniadau sydd yn effeithio ar eu bywydau.

“Hoffwn annog unrhyw un i gymryd rhan wrth helpu i wneud eu cymunedau lleol yn lleoedd gwell i fyw. Cofrestrwch i bleidleisio a defnyddiwch eich pleidlais – gwnewch wahaniaeth!”

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar Ebrill 14, a bydd yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal ar Mai 5.

Pobol ifanc sy’n pleidleisio am y tro cyntaf eleni’n credu y dylid gwneud gwleidyddiaeth yn rhan o’r cwricwlwm

“Chi kind of angen cael diddordeb mewn gwleidyddiaeth achos mae e am effeithio chi, os yda chi eisiau iddo fe neu ddim,” meddai un disgybl Lefel A

“Cael llais am y tro cyntaf”

Cadi Dafydd

Wythnos nesaf, bydd pobol ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau Senedd Cymru