Mae angen i Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â rhestrau aros hiraf erioed y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Dangosodd data diweddaraf Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar gyfer mis Ionawr bod y nifer uchaf erioed o gleifion yn aros am driniaeth, gyda 688,836 ar lwybrau cleifion – dros 5,000 yn fwy na’r mis blaenorol.

Golyga hynny bod 1 ymhob pump o boblogaeth Cymru ar y rhestr aros.

Mae nifer y bobol sy’n aros ers dros ddwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu bron i 30,000 mewn pedwar mis i 56,500.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r ffigurau’n debygol o waethygu oherwydd gohirio llawdriniaeth ar draws sawl bwrdd iechyd wrth i adnoddau symud gael eu defnyddio ar gyfer yr ymgyrch frechu.

Mae amseroedd aros canolrifol ar gyfer yr un mis yng Nghymru yn 23.6 wythnos, tra bod 1 o bob 4 claf yng Nghymru yn aros ers dros flwyddyn am driniaeth.

Dangosa ffigurau ychwanegol bod traean (33.4%) o gleifion wedi gorfod aros dros y targed pedair awr i gael eu gweld yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys fis diwethaf.

Dyma’r trydydd mis gwaethaf ar record.

“Mae’r niferoedd uchel hyn yn frawychus ond nid ydyn nhw’n syndod oherwydd, yn anffodus, mae hyn yn mynd yn rhy gyffredin – ond ni all hynny olygu ein bod ni’n derbyn mai dyma beth mae Cymru’n ei gael pan rydym yn haeddu cymaint gwell,” meddai Russell George AS, llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar restrau aros, ond dyw’r esgus yna ddim yn cyfiawnhau’r ffigyrau hyn.

“Mae’r Gweinidog Iechyd yn dal i ddweud y bydd y byrddau iechyd yn adrodd yn ôl gyda’u cynlluniau i leihau’r rhestrau aros hyn, ond dylai’r Farwnes Morgan fod yn eu harwain at ateb, nid eistedd yn ôl.

“Mae’r rhestrau hyn yn dangos, o dan Lafur, bod busnes fel yr arfer, yn fethiant fel yr arfer.”

“Argyfwng”

Dywedodd Jane Dodds AoS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Mae’n amlwg bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn parhau i fod mewn argyfwng, gyda gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn cael eu heffeithio waethaf.

“Mae ein staff Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru anhygoel yn gwneud popeth o fewn eu gallu, ond mae cleifion yn talu’r pris am fethiannau polisi.

“Dylai Llywodraeth Cymru fod yn cymryd camau brys i hybu gwasanaethau iechyd lleol a meddygon teulu er mwyn lleihau’r pwysau enfawr ar adrannau damweiniau ac achosion brys a’r ôl-groniadau sy’n effeithio ar y gwasanaeth ambiwlans.

“Mae angen i ni weld mwy o wasanaethau’n cael eu symud yn ôl i gymunedau lleol, a arferai weithredu fel clustogfa hanfodol ar gyfer gwasanaethau damweiniau ac unedau brys.

“Rwyf hefyd yn bryderus iawn y bydd cefnogaeth y Fyddin i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dod i ben cyn diwedd y gaeaf.

“Er fy mod yn sylweddoli nad gwaith y lluoedd arfog yw hyn, nid dyma’r amser i gael gwared arno.”

“Straen sylweddol”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r don Omicron yn parhau i gael effaith ar lefelau staffio, a oedd yn rhoi straen sylweddol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gydag Ionawr 2022 yn gweld y lefel uchaf o salwch staff oherwydd Covid ers mis Ebrill 2020.

“Er gwaethaf nifer yr absenoldebau staff, diolch i ymdrechion arwrol staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ym mis Ionawr gwelwyd y cynnydd misol lleiaf ond un o ran cyfanswm y bobol ar restrau aros ers dechrau’r pandemig.

“Yn anffodus roedd y cyfuniad o staffio, pwysau’r gaeaf a’r don Omicron yn golygu bod rhai pobol yn parhau i aros yn hirach am driniaeth nag yr hoffem.

“Mae ymgynghorwyr yn parhau i weld pob claf yn nhrefn blaenoriaeth glinigol, gyda’r cleifion mwyaf brys yn cael eu gweld yn gyntaf.

“Rydym hefyd yn canolbwyntio ar arosiadau hir ac mae ffigur mis Ionawr ar gyfer aros dros flwyddyn wedi dangos gostyngiad o 2% o’i gymharu â mis Rhagfyr a dyma’r isaf ers mis Awst 2021.

“Ym mis Chwefror 2022 gwelwyd cynnydd yng nghyfanswm y galwadau a wnaed i’r gwasanaeth ambiwlans o’i gymharu â’r mis blaenorol – a’r un mis y llynedd. Er gwaethaf hyn, gwellodd perfformiad yn erbyn y targed o ran ymateb ambiwlansys o wyth munud, cynnydd o 2.5 pwynt canran ar Ionawr 2022.

“Mae adrannau achosion brys hefyd wedi gweld mwy o weithgarwch – gyda dros draean yn fwy o bobol yn ymweld â nhw o gymharu â mis Chwefror 2021 – sydd wedi creu heriau sylweddol i dimau ysbytai ac mae perfformiad yn erbyn y targed pedair awr yn parhau’n llawer is na’r hyn y dylai fod.”

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru bod yna alw mawr, fel bob amser, am wasanaethau canser, a bod atgyfeiriadau i wasanaethau canser wedi cynyddu ers mis Rhagfyr.

Mae Canolfannau Diagnositig Cyflym wedi cael eu sefydlu yng Nghymru er mwyn cyflymu diagnosis canser.

“Bydd y clinigau hyn, ynghyd â’r £248m i gefnogi ein cynllun adfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ein helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau canser yn ystod y misoedd nesaf,” meddai Llywodraeth Cymru.

“Ym mis Ebrill byddwn yn cyhoeddi cynllun manwl ar sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r amseroedd aros ar gyfer cleifion sydd wedi gweld gohirio ar eu triniaeth oherwydd y pandemig.”

Sefydlu clinigau newydd i helpu i roi diagnosis canser yn gynt

Gall y Canolfannau Diagnosis Cyflym helpu i roi sicrwydd i bobol sydd heb ganser yn gynt, a helpu gyda diagnosis o gyflyrau cronig eraill hefyd