Mae Nato wedi lansio ei systemau amddiffyn cemegol a niwclear, ac mae’n “cymryd camau i gefnogi Ukrain ac i amddiffyn ein hunain”, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Jens Stoltenberg.

Dywedodd datganiad ar y cyd gan arweinwyr Nato, a ryddhawyd yn dilyn uwchgynhadledd frys: “Bydd cynghreiriaid Nato hefyd yn parhau i ddarparu cymorth [i Wcráin] mewn meysydd fel seiberddiogelwch a diogelwch rhag bygythiadau o natur cemegol, biolegol, radiolegol a niwclear.”

Yn ôl Jens Stoltenberg mae uwch arweinydd milwrol Nato wedi “lansio systemau amddiffyn cemegol, biolegol, radiolegol a niwclear Nato ac mae cynghreiriaid yn defnyddio amddiffynfeydd cemegol, biolegol a niwclear ychwanegol”.

Daw hyn yn sgil pryderon y gallai Rwsia ddefnyddio arfau cemegol a niwclear yn erbyn Nato.

Pan ofynnwyd a oedd y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth gredadwy, dywedodd Jens Stoltenberg: “Rydym yn pryderu, yn rhannol am ein bod yn gweld y rhethreg a gwelwn fod Rwsia’n ceisio creu rhyw fath o ragdestun – cyhuddo Wcráin, yr Unol Daleithiau, cynghreiriaid Nato – am baratoi i ddefnyddio arfau cemegol a biolegol. ”

Byddai unrhyw ddefnydd o arfau cemegol “yn newid natur y gwrthdaro yn llwyr, bydd yn torri cyfraith ryngwladol yn amlwg, a bydd yn arwain at ganlyniadau eang”, ychwanegodd.

“Rydym am oroesi”

Daw hyn ar ôl i’r Arlywydd Volodymyr Zelensky bledio gydag arweinwyr Nato i ddarparu 1% o awyrennau a thanciau’r gynghrair, er mwyn rhoi “amddiffyniad 100%” i Wcráin yn erbyn ymosodiad Rwsia.

Roedd Volodymyr Zelensky yn annerch uwchgynhadledd Nato drwy gyswllt fideo.

Dywedodd ei fod yn teimlo bod ei wlad yn cael ei dal mewn “rhyw barth llwyd rhwng y Gorllewin a Rwsia” gan nad yw’n rhan o Nato eto ond bod y gynghrair yn “amddiffyn ein gwerthoedd”.

“Dyw Wcráin ddim eisiau rhyfeloedd am flynyddoedd a blynyddoedd,” meddai.

“Rydym am oroesi, er mwyn achub ein pobol.”

Ond rhybuddiodd bod amddiffyn ei wlad yn dod ar draul “miloedd o fywydau, dinasoedd, a bron i 10 miliwn o bobol wedi’u hadleoli”.

Aeth ymlaen i ofyn drachefn am gymorth awyr “i helpu i warchod ein hawyr” oherwydd nad oes gan Wcráin unrhyw amddiffynfeydd gwrth-awyrennau pwerus.

Hyd yma, mae Nato wedi gwrthod darparu jetiau ymladd i Wcráin gan ei fod am osgoi bod yn rhan o’r gwrthdaro â Rwsia – rhywbeth mae Putin wedi dweud y byddai’n arwain at ganlyniadau “nad yw’r byd erioed wedi’u gweld”.